Meicro-Ofal yn Sir y Fflint

Croeso i dudalennau gwe Meicro-Ofal Cyngor Sir y Fflint.

Ar y tudalennau yma fe gewch chi’r holl wybodaeth fydd arnoch chi ei hangen am:

• Sut i ddod yn feicro-ofalwr

• Canfod meicro-ofalwr i’ch cefnogi chi gyda’ch anghenion gofal neu les 


Beth ydi Meicro-Ofal?

Mae meicro-ofal yn ffordd newydd o ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl yn Sir y Fflint. 
Mae meicro-ofalwyr yn bobl, neu'n fusnesau bach, sy’n cynnig gofal, cefnogaeth neu wasanaethau lles hyblyg a phersonol i bobl. 


Maen nhw’n gweithio gyda’u cleientiaid i ganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a’r ffordd orau i’w cefnogi er mwyn iddyn nhw gyrraedd eu nodau. 


Gall meicro-ofalwyr helpu pobl gydag amrywiaeth o bethau, er enghraifft:

 Gwasanaethau gofal cartref Seibiant i ofalwyr Gwyliau a seibiant byr Gweithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd  Cyfleoedd hamdden, lles a chymdeithasol Glanhau Cymorth gyda biliau Gofalu am anifeiliaid anwes  Ymgyfeillio/cwmnïaeth   Help i arddio  Darparu prydau ar gyfer pobl yn eu cartrefi eu hunain   Mynd i mewn ac allan o’r gwely Nôl neges ar gyfer un neu fwy nag un person


Gellir talu meicro-ofalwyr drwy daliad uniongyrchol neu drwy gronfeydd unigolyn. 

 

Dod yn Feicro-Ofalwr 

Derbyn cefnogaeth Meicro-Ofalwr 

Dod o hyd i Feicro-ofalwr yn Sir y Fflint 

 

Mae’r Prosiect Meicro-Ofal wedi’i gefnogi gan Gyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, cynllun ariannu Leader 2014-2020 a chyda Cadwyn Clwyd fel corff gweinyddu. Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn cefnogi datblygiad mentrau meicro-ofal yn Sir y Fflint. 

 

 

Cysylltwch â ni

E-bost:   micro-care@flintshire.gov.uk