Dod yn Feicro-ofalwr
Ydych chi’n hoffi gofalu am bobl?
Ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned?
Hoffech chi fod yn fos arnoch chi eich hun?
Os felly, beth am ddod yn Feicro-Ofalwr hunangyflogedig?
Gall y Tîm Meicro-Ofal gynnig cyfle cyffrous i chi:
- Ddechrau gyrfa newydd boddhaus a gwobrwyol
- Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn angen
- Cefnogi cymunedau
- Defnyddio’r profiad a’r sgiliau a enilloch wrth fod yn ofalwr di-dâl i eraill
- Rhedeg busnes a bod yn fos arnoch chi eich hun.
Pam dewis gyrfa fel Meicro-ofalwr?
Mae dod yn ddarparwr meicro-ofal yn golygu eich bod chi’n rheoli’r ffordd rydych chi’n gweithio a’r ffordd y mae’ch busnes yn datblygu. Chi sy’n penderfynu pa wasanaethau rydych chi’n arbenigo ynddyn nhw, beth rydych chi’n ei ddarparu i’ch cleientiaid, pryd rydych chi'n gweithio a chyda pwy.
Gall bod yn ddarparwr meicro-ofal hefyd roi mwy o foddhad swydd i chi, gan roi cyfle i chi fod yn fwy arloesol wrth ganfod datrysiadau i heriau pob dydd a wynebir gan eich cleientiaid.
Yn y pen draw, mi fyddwch chi’n galluogi pobl i wneud y pethau maen nhw'n eu gwerthfawrogi ac sy’n dod a mwynhad iddyn nhw.
Sut ydw i’n dod yn ddarparwr meicro-ofal?
Mae Tîm Meicro-Ofal Sir y Fflint yma i helpu meicro-ofalwyr a gweithio gydag unigolion er mwyn:
• Eu cefnogi i ddatblygu eu busnes neu eu syniadau
• Darparu cyngor a gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid a chefnogaeth ac adnoddau eraill sydd ar gael
• Eu helpu i dderbyn cyllid i gychwyn eu busnes• Cefnogi unigolion i ddatblygu a darparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru
• Eu cysylltu â rhwydwaith o ddarparwyr meicro-ofal eraill ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid
Pa un ai ydych chi eisoes yn meddu ar brofiad mewn gofal neu'n hollol newydd i rôl ofalu, gall y tîm eich cefnogi chi drwy ddarparu cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi ddechrau arni. Ar ben hyn, bydd y tîm yn darparu cymorth parhaus wrth i chi dyfu’ch busnes.
A gorau oll, mae’r gefnogaeth hon yn rhad ac am ddim.
Cam 1: Llenwch y ‘Ffurflen Datgan Diddordeb’ a’i dychwelyd i aelod o’n Tîm Meicro-Ofal.
Cam 2: Byddwch yn derbyn gwahoddiad i gwrdd â’r tîm ac yn derbyn trosolwg o’r Prosiect Meicro-Ofal yn Sir y Fflint. Bydd y tîm yn trafod eich syniadau a sut y gallan nhw gefnogi pobl Sir y Fflint sydd angen gofal a chefnogaeth.
Ar ddiwedd y cyfarfod yma byddwch yn derbyn ffurflen hunanasesiad. Bydd y ffurflen hon yn eich helpu chi i ddatblygu’ch syniadau busnes.
Cam 3: Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ail gyfarfod lle byddwch chi a’r tîm yn edrych ar y ffurflen hunanasesiad rydych chi wedi’i llenwi. Bydd y tîm yn cytuno ar gynllun datblygu efo chi er mwyn eich helpu i gychwyn eich busnes meicro-ofal.
Cam 5: Bydd y camau nesaf yn cynnwys mynychu cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim neu sesiynau datblygu sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol a rhedeg busnes, er mwyn i chi ennill y sgiliau, cymwysterau, arbenigedd a’r hyder i redeg eich busnes yn llwyddiannus.
Gall y cyrsiau hyn gynnwys:
- Datblygu Busnes
- Hyfforddiant gofal, drwy nifer o gyrsiau gofal gorfodol byr, e.e.:
- Symud a rhoi pobl i eistedd/orwedd
- Iechyd a Diogelwch
- Rheoli Heintiau
- Meddyginiaeth
Yn ogystal, byddwch yn dal i gwrdd â'r Swyddogion Meicro-Ofal i ddatblygu’ch meddwl a’ch syniadau busnes.
Cam 5: Bydd arnoch chi angen dechrau llenwi gwaith papur o fewn Fframwaith Ansawdd, sydd wedi’i ddylunio i helpu’ch busnes ddatblygu ac i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyrraedd y safonau cyfreithiol a chenedlaethol. Gall u Tîm Meicro-Ofal eich helpu chi lenwi’r rhain.
Cam 6: Nudd y Tîm Meicro-Ofal yn cwrdd efo chi eto i edrych ar y cynnydd rydych chi wedi’i wneud yn erbyn y Fframwaith Ansawdd ac i benderfynu, gyda chi, a ydych chi’n barod i ddechrau gweithio fel meicro-ofalwr.
Ar y pwynt hwn, fe allwch chi ddewis derbyn rhagor o gymorth cyn i chi ddechrau arno go iawn neu efallai nad ydi bod yn feicro-ofalwr yn yrfa i chi.
Ffurflen Datgan Diddordeb
Sut i gychwyn eich busnes eich hun
Wrth i chi gychwyn eich busnes eich hun a dod yn hunangyflogedig, mae yna lawer o bethau y dylech chi eu hystyried. Bydd arnoch chi angen ystyried:
- Eich cynllun busnes a’ch strwythur
- Pa wasanaethau y byddwch chi’n eu darparu a sut byddwch chi’n eu marchnata
- Cadw cofnodion ariannol
- Bodloni’r holl ofynion cyfreithiol fel talu trethi a gwneud yn siŵr eich bod chi’n cydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth os ydych chi’n bwriadu cyflogi pobl eraill
I’ch helpu chi, mae’r Tîm Meicro-Ofal wedi datblygu nifer o daflenni ffeithiau syml:
Rydym ni hefyd yn gallu trefnu cymorth busnes un-i-un gydag un o’n hymgynghorwyr busnes, nifer o sesiynau hyfforddiant busnes a mentora busnes parhaus os oes arnoch chi angen hynny.
Sut ydw i’n dod o hyd i waith ac yn datblygu’r busnes?
Mae yna ddwy ffordd i ganfod gwaith fel darparwr meicro-ofal a datblygu busnes cynaliadwy:
- Cael ei hurio gan bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol gan Gyngor Sir y Fflint
- Cael eich hurio'n breifat gan bobl
Os ydi unigolyn yn gymwys i dderbyn cymorth i ddiwallu ei anghenion gofal, gall Cyngor Sir y Fflint roi arian iddyn nhw yn lle gwasanaeth, ar ffurf Taliad Uniongyrchol. Mae hyn wedyn yn gadael i'r unigolyn drefnu'r gefnogaeth orau sy'n cyd-fynd â'i ffordd o fyw.
Mae gan Gyngor Sir y Fflint dîm Taliadau Uniongyrchol ymroddedig sy’n helpu pobl i ddewis y gofal cywir ar eu cyfer. Mae gweithio gyda meicro-ofalwr yn un o’r dewisiadau sy’n cael ei gynnig i’r rheiny sy’n derbyn taliadau uniongyrchol.
Mae yna hefyd nifer o bobl nad ydyn nhw’n gymwys i dderbyn gofal wedi’i ariannu gan y Cyngor, ond sy’n dymuno prynu gwasanaethau gofal neu les yn breifat. Mae darparwyr meicro-ofal yn gallu gweithio’n uniongyrchol i bobl sy’n talu’r meicro-ofalwr yn uniongyrchol.
Bydd meicro-ofalwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Tîm Meicro-Ofal yn cael eu rhestru ar wefan Gofal@Sir Y Fflint, a bydd eu manylion yn cael eu rhannu â nifer o asiantaethau allanol er mwyn hyrwyddo’u busnes.
Byddwch hefyd yn cael eich annog i restru’ch busnes ar DEWIS Cymru, gwefan genedlaethol sy’n rhestru unigolion a busnesau ar draws Cymru sy’n cefnogi pobl gyda’u anghenion lles.
Astudiaethau Achos
Ers mis Medi 2019, pan sefydlwyd Rhaglen Datblygu Meicro-Ofal, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael nifer o feicro-ofalwyr, sydd wedi cwblhau’r gwaith papur a’r prosesau cychwynnol ac sydd erbyn hyn yn masnachu yn y sir.
Isod fe gewch chi ychydig o astudiaethau achos rhai o’r darparwyr meicro-ofal yma, sy’n amlygu beth maen nhw'n ei wneud, pam eu bod wedi penderfynu ymuno â’r rhaglen a beth maen nhw wedi’i gael o’r profiad hyd yn hyn.
Taith Linda
Cysylltwch â ni
Datblygu a Chymorth Meicro-Ofal
E-bost: micro-care@flintshire.gov.uk
Cymorth i Fusnesau
San Leonard, Prif Weithredwr Cwmnïau Cymdeithasol CymruRhif ffôn: 07799 345 940E-bost: sanleonard@socialfirmswales.co.uk
Busnes CymruRhif ffôn: 03000 603 000 Gwefan: www.busnescymru.llyw.cymru