Amdanom ni
Croeso i Gofal@Sir y Fflint. Mae’r wefan hon yn cael ei hwyluso gan Gyngor Sir y Fflint gyda’r nod o godi proffil y sector gofal cymdeithasol yn y sir. Rydym yn gwybod bod gwaith da yn cael ei gynnig gan ddarparwyr yng Nghyngor Sir y Fflint, ac rydym eisiau sicrhau ei fod yn cael ei ddathlu.
Rydym yn gobeithio y bydd y wefan yn adnodd defnyddiol i’r rheiny sydd efallai’n chwilio am yrfa yn y sector, ac yn cyfeirio pobl at ffynonellau pellach o gefnogaeth a gwybodaeth.
Os ydych chi’n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gallwch gofrestru a mewngofnodi ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf, hyfforddiant, digwyddiadau a newyddion a fyddai o ddiddordeb.
Mae’r wefan hon wedi cael ei datblygu ar y cyd gyda darparwyr lleol ac rydym yn croesawu eich sylwadau fel ei bod yn adnodd defnyddiol yn eich gwaith. Os oes unrhyw ffordd rydych yn teimlo y gallwn wella’r wefan, neu unrhyw wybodaeth rydych yn teimlo y dylwn ei hychwanegu, cysylltwch â ni gyda’ch awgrymiadau a’ch sylwadau.