Gyrfa mewn Gofal
Mwy na swydd
Hoffech chi yrfa wobrwyol?
Hoffech chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun?
Er mwyn cwrdd â’r galw am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ar draws y wlad, erbyn 2030 bydd ar Gymru angen miloedd o bobl yn ychwanegol i ofalu am oedolion a phlant.
Ar hyn o bryd mae 1 ymhob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), sy’n golygu bod y maes yn cyflogi mwy o bobl na’r GIG. Ond mae’r maes gwaith hwn yn dal i dyfu.
I gwrdd â’r galw hwn mae darparwyr gofal lleol yn bwriadu recriwtio a hyfforddi unigolion ymroddgar gyda’r gwerthoedd cywir i weithio gyda phobl fwyaf diamddiffyn ein cymdeithas.
Pobl debyg i chi!
Pam Dilyn Gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol?
- Gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl
- Mae yna swyddi ar gyfer pob oedran
- Gallwch weithio llawn amser neu ran-amser, yn dibynnu ar eich amgylchiadau
- Gallwch gefnogi pobl gyda dementia, nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu
- Gallwch weithio mewn cartref gofal, yn y gymuned neu drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain
- Gallwch redeg eich busnes eich hun i ddiwallu anghenion eich cymuned
- Mae yna ddewis eang o swyddi cyffrous a heriol
"Fel staff gofal cymdeithasol, mae arnom ni bob amser eisiau trin pobl yn dda"
"Dyma’r swydd fwyaf gwobrwyol y cewch chi"
"Dwi’n difaru peidio â dilyn gyrfa yn y maes yn gynt!"
Tudalennau Gofal Cymdeithasol Cymru https://gofalcymdeithasol.cymru/gyrfaoedd
Clwiliwch am swyddi yn eich ardal
Cymerwch y prawf
I weld sut beth yw gyrfa mewn gofal, cymerwch ran yn yr her fideo rhyngweithiol ‘Gofal yn Galw: Gyrfa i CHI?'.
http://www.aquestionofcare.org.uk/