Derbyn Cefnogaeth Meicro-Ofalwr

Oes arnoch chi eisiau mwy o ddewis a rheolaeth dros eich gofal a’ch cefnogaeth?

Yna, beth am weithio gyda meicro-ofalwr?

 

Pam dewis Meicro-ofalwr?

  • Bydd nifer o ddarparwyr meicro-ofal yn unig fasnachwyr, gan gynnig cefnogaeth i ychydig iawn o bobl mewn ardal gymharol fach. Drwy weithio yn y ffordd yma maen nhw'n gallu darparu gwasanaeth sy’n fwy hyblyg ac ymatebol, gan sicrhau bod y gwasanaeth gofal a chefnogi yn cael ei ddarparu fel sydd arnoch chi ei angen ac ar adeg sy'n gyfleus i chi. 
  • Gan eu bod yn gweithio iddyn nhw eu hunain, neu mewn partneriaeth â chydweithwyr meicro-ofal eraill, byddan nhw’n gallu darparu gwasanaeth mwy cyson gan wynebau cyfarwydd. 
  • Bydd y rhan fwyaf o feicro-ofalwyr yn cynnig gwasanaethau gofal personol ac ystod o wasanaethau lles eraill fel nôl neges, glanhau a chymorth gydag amrywiaeth o weithgareddau.
  • Mae’r holl feicro-ofalwyr sydd wedi’u rhestru ar y wefan hon sy’n cynnig gofal personol yn gorfod cyrraedd safonau ymarfer penodol, sy’n cael eu gwirio cyn iddyn nhw ddechrau gweithio i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn ddiogel. Mae Tîm Meicro-Ofal Cyngor Sir y Fflint hefyd yn eu monitro’n barhaus i sicrhau eu bod nhw’n parhau i gynnig gofal a chefnogaeth o'r radd flaenaf. 

 

Pa gymorth mae Meicro-Ofalwyr yn gynnig?

Dyma enghreifftiau o wasanaethau gofal a chefnogi y gall darparwyr meicro-ofal eu cynnig: 


 Gofal a chymorth yn eich cartref  Gwasanaethau seibiant ar gyfer gofalwyr  Gwyliau a seibiant byr Gweithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd  Cyfleoedd hamdden, lles a chymdeithasol Glanhau Cymorth gyda biliau  Gofalu am anifeiliaid anwes  Ymgyfeillio/cwmnïaeth  Help i arddio  Darparu prydau ar gyfer pobl yn eu cartrefi eu hunain  Mynd i mewn ac allan o’r gwely Nôl neges ar gyfer un neu fwy nag un person

Nid yw’r rhestr hon yn un gyflawn. Gallwch weithio gyda’ch meicro-ofalwr i gytuno ar y gefnogaeth sydd arnoch chi ei hangen. 

 

Beth sydd yn rhaid i Feicro-Ofalwyr Rhaglen Meicro-Ofal Sir y Fflint ei gyflawni cyn iddyn nhw ddechrau gweithio?   

Bydd yr holl feicro-ofalwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Tîm Meicro-Ofal yn meddu ar y canlynol: 

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Gwiriad dilys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Wedi cofrestru fel gweithiwr hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM
  • Proffil Busnes - yn egluro’r busnes a’r gwasanaethau
  • Proffil un dudalen - yn egluro beth sy’n bwysig i’r client 
  • Gweithdrefn gyfrinachedd 
  • Geirdaon 


Bydd ar feicro-ofalwyr sy’n darparu gwasanaethau gofal personol hefyd angen tystiolaeth eu bod wedi derbyn hyfforddiant gofal hyd at lefel briodol.

Er bod yn rhaid i feicro-ofalwyr gyflawni’r lefelau gofynnol fel y nodwyd gan y Tîm Meicro-Ofal cyn iddyn nhw ddechrau masnachu, mae darparwyr meicro-ofal yn ddarparwyr gofal hunangyflogedig annibynnol ac felly dydi Cyngor Sir y Fflint ddim yn gyfrifol am eu camau gweithredu.

 

Beth sydd arnoch chi angen gwybod cyn cyflogi meicro-ofalwr? 

Mae Tîm Meicro-Ofal Sir y Fflint yn cynnal gwiriadau cyn rhoi meicro-ofalwr ar y gronfa ddata. Mae hyn yn golygu, os ydi meicro-ofalwr yn hysbysebu ar y safle, ei fod wedi derbyn yr holl hyfforddiant sylfaenol a bodloni’r gofynion eraill sy'n angenrheidiol drwy ein 'Fframwaith Ansawdd'.

Er bod yr holl wiriadau wedi’u gwneud, mae’n syniad da i chi, neu rywun ar eich rhan, gyfweld â’r meicro-ofalwr cyn cynnig gwaith iddo. Cofiwch, mae rhwydd hynt i chi ofyn am gopi o’r yswiriant, y dystysgrif Datgelu a Gwahardd a’u statws hunangyflogaeth. Bydd pob meicro-ofalwr yn fodlon darparu’r rhain i chi.

Os ydi’ch anghenion wedi’u hasesu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a’ch bod chi’n bodloni meini prawf cymhwyso’r Cyngor ar gyfer gofal neu gefnogaeth, mae’n rhaid i chi ddewis derbyn Taliad Uniongyrchol gan Gyngor Sir y Fflint os ydych chi’n dymuno defnyddio darparwr meicro-ofal. Mae taliad uniongyrchol yn arian gan Gyngor Sir y Fflint i gwrdd â’ch anghenion asesedig ac er mwyn i chi brynu gofal neu gefnogaeth yn uniongyrchol. Fe allwch chi naill ai ddewis dod yn gyflogwr a chyflogi eich cymorthyddion personol eich hun neu ddefnyddio’r arian i hurio darparwr meicro-ofal. Mae pob meicro-ofalwr yn hunangyflogedig, felly ni fydd gennych chi gyfrifoldebau cyflogwr. 

Ar ôl i chi ddewis eich darparwr meicro-ofal ac ar ôl i’r darparwr gytuno eich cefnogi, bydd y meicro-ofalwr yn rhoi contract i chi ei ddarllen a’i lofnodi os ydych chi’n fodlon ar y cynnwys. Bydd y meicro-ofalwr yn fwy na pharod i fynd drwy'r contract efo chi.

Os ydi rhywun yn dweud ei fod yn feicro-ofalwr, ond nad ydi ei enw yn ymddangos ar y gronfa ddata hon, cysylltwch â’r Tîm Meicro-Ofal ar 01352 702126 neu 01352 701426 i wirio ei fod yn rhan o’r cynllun.   

 

Monitro Darparwyr Meicro-Ofal 

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn monitro pob meicro-ofalwr sy’n cynnig gwasanaethau gofal personol neu gefnogaeth i gleientiaid sydd naill ai’n derbyn taliadau uniongyrchol neu’n derbyn gofal wedi’i drefnu gan Gyngor Sir y Fflint.

Dydi Cyngor Sir y Fflint ddim yn gallu monitro trefniadau preifat.