Tanysgrifiwch i gael gwybod am lwybr cofrestru gofal cartref newydd

SCW

 

Gall gweithwyr gofal cartref danysgrifio i gael gwybod pryd bydd llwybr newydd ar gael ar gyfer cofrestru. Mae'r llwybr i gofrestru wedi cael ei gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal cartref sydd â llai na thair blynedd o brofiad yn y pum mlynedd ddiwethaf ac sydd heb ddigon o amser i ennill cymhwyster er mwyn gallu cofrestru cyn y daw hynny'n orfodol yn 2020.

Bydd gweithwyr gofal cartref sy'n cwblhau'r cwrs byr ac asesiad ar-lein yn llwyddiannus yn cael dyfarniad gwerthoedd ac egwyddorion Gofal Cymdeithasol Cymru, yn rhoi modd iddyn nhw wneud cais i gofrestru gyda ni.

Tanysgrifiwch i gael yr hysbysiad

 

 

Wedi ei bostio ar 12 March 2019