Swydd Wag: Swyddog Cynllunio a Datblygu - Mentrau Gofal Cymdeithasol Bychain

default-news-image

Caiff Gwasanaethau Cymdeithasol eu darparu o fewn cyd-destun gofynion cymdeithasol, demograffig ac amgylcheddol sy'n newid yn gyflym, ac mae’r adran angen gallu ymateb i'r gofynion hynny ynghyd â pharhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr ei wasanaeth a’u gofalwyr o fewn cyllideb y cytunwyd arni.

Mae’r pwysau ar y sector gofal cymdeithasol yn dra hysbys. Mae Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru (2017) yn rhagamcan ein bod yn debygol o weld cynnydd heb ei debyg yn nifer y bobl hŷn (dros 65 oed) yn Sir y Fflint, o 30,000 yn 2014 i 46,000 erbyn 2039.  Mae’r effaith y gallai hyn ei gael ar y sector gofal cymdeithasol presennol yn sylweddol.

 Mae Cyngor Sir y Fflint yn dymuno cyflogi Swyddog Cynllunio a Datblygu brwdfrydig, angerddol a deallus i gefnogi mentrau gofal cymdeithasol bychain sydd eisoes yn bodoli a’r rhai hynny sy’n datblygu.  Cyfeirir at y rhain weithiau fel ‘mentrau gofal bychain’, a byddant yn darparu gofal uniongyrchol a phersonol i drigolion Sir y Fflint. Bydd y mentrau hyn yn gweithio mewn cymunedau lleol i gynnig hyblygrwydd a gwasanaethau gofal personol, cyfleoedd am ddatblygiad economaidd, a bydd ganddynt hefyd ran mewn datblygu gwytnwch o fewn cymunedau.

 

Fel rhan o’r swydd, bydd gofyn cefnogi’r mentrau hyn drwy’r cyfnod sefydlu ac wrth iddynt ddatblygu o ran aeddfedrwydd, hyfywedd ac effaith. Bydd angen canolbwyntio ar ansawdd i sicrhau bod gan yr unigolion sy’n darparu’r gofal y sgiliau a’r wybodaeth gywir i wneud hynny.  Bydd hefyd angen eu cyfeirio at amrywiaeth o gymorth a hyfforddiant sydd ar gael i fusnesau a datblygu adnoddau pwrpasol yn ôl yr angen. 

 

Bydd rôl deiliad y swydd yn allweddol o ran codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ac effaith y mentrau hyn wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ymysg budd-ddeiliaid mewnol ac allanol a’r cyhoedd. 

 

Ochr yn ochr â’r elfennau gweithredol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi uwch gydweithwyr gyda datblygiadau strategol.

 

Mae’r rhaglen yn flaenoriaeth gorfforaethol a bydd gofyn i ddeiliad y swydd adrodd ger bron Bwrdd Gweithredu o gynrychiolwyr amrywiol bortffolios y Cyngor ac asiantaethau partner.

 

Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i ddatblygu dull arloesol o gefnogi’r sector gofal cymdeithasol ac i wneud gwahaniaeth i’r unigolion hynny sy’n byw yn ein cymunedau.

 

Teitl swydd: Swyddog Cynllunio a Datblygu - Mentrau Gofal Cymdeithasol Bychain
Cyfeirnod y swydd: 0001779
Dyddiad cau: 09/06/2019
Cyflog: Graddfa H SCP 34 i 37 £30,756 i £33,136
Pecyn: Contract cyfnod penodol tan fis Mehefin 2021 37 awr yr wythnos
Categori/math o swydd: Cyfnod penodol

 

 

I weld manylion y swydd neu i wneud cais ar-lein cliciwch yma.

 

Wedi ei bostio ar 04 June 2019