Pum Ffordd at Les

5 ways to wellbeing cym

Gellir dadlau na fu erioed amser pwysicach i feddwl am ein lles meddyliol. Mae'r Pandemig COVID a'r mesurau cysylltiedig i atal y firws rhag lledaenu wedi arwain at fod yn gyfnod o straen ac ansicrwydd i lawer ohonom. Yn ogystal, mae'r pethau sy'n helpu i amddiffyn ein lles, megis cael ymdeimlad o reolaeth dros ein bywydau, teimlo ein bod yn cael ein cynnwys ac yn gallu cymryd rhan, a chael mynediad at y pethau sy'n cefnogi ein gwytnwch, wedi cael eu pellhau oddi wrthym.

I'r perwyl hwn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi adnewyddu ei dudalennau gwe Pum Ffordd at Les i ddarparu cyngor ymarferol ar y camau y gallwn i gyd eu cymryd i helpu i edrych ar ôl ein lles.

Mae'r tudalennau gwe yn cynnwys gwybodaeth ac enghreifftiau ar bob un o'r Pum Ffordd, adnoddau y gellir eu lawrlwytho, ac arweiniad i ddarparwyr gwasanaeth. Fel rhan o'r digwyddiad lansio hwn, mae'r Bwrdd Iechyd yn gwahodd adborth ar y tudalennau gwe, a byddai'n croesawu'r cyfle i ddysgu am sut mae defnyddio'r dull o fudd i unigolion a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Cysylltwch â ni ar: 5ways.northwales@wales.nhs.uk

Wedi ei bostio ar 10 May 2021