Progress for Providers mewn Cartrefi Gofal

P4P awards

Mae Progress for Providers mewn Cartrefi Gofal yn arf hunanasesu i reolwyr ei ddefnyddio gyda'u staff i wirio sut y maent yn gwneud o ran darparu cymorth personol i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae 'Cymorth Personol' yn nod allweddol mewn polisi cenedlaethol ac mae'n golygu teilwra cymorth i'r unigolyn, a'u galluogi i gael cymaint o ddewis a rheolaeth dros eu gwasanaeth a’u bywyd ag y bo modd, yn hytrach na chefnogi pawb yn yr un ffordd. Mae hyn yn golygu dysgu’r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a sicrhau bod unrhyw gymorth sydd ei eisiau neu ei angen yn cael ei lywio gan hyn. Mae defnyddio adnoddau meddwl a dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu staff i roi'r gefnogaeth orau y gallant mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu’r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn. Nid yw gweithio fel hyn yn golygu gwneud mwy, ond yn hytrach gwneud pethau'n wahanol.

Mae hwn yn gyhoeddiad ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal preswyl yn bennaf. Efallai ei fod hefyd o ddiddordeb i deuluoedd sy'n chwilio am gartref gofal neu sydd eisiau gwybod i ba raddau y mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd achrediad Efydd, Arian ac Aur yn helpu rheolwyr i wirio eu cynnydd eu hunain dros gyfnod o amser a dangos yn gyhoeddus eu bod yn dal i wneud cynnydd ar hyd y ffordd i gynnig gofal sydd wir yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y rhai sydd wedi cyflawni’r achrediad yn cael eu rhestru yma.

Os oes gennych unrhyw adborth cyffredinol i’w roi, yn gadarnhaol neu'n negyddol, cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar 01352 702672 neu e-bostiwch contracts.commissioning@flintshire.gov.uk

Mae’r cartrefi preswyl canlynol wedi ei gwobrwyo ac achrediad Efydd:

 

Bryn Edwin

Chestnut House

Croes Atti

Haulfryn

Hollybank

Lexham Green

Llys Gwenffrwd

Marleyfield House

Pen Y Bryn

Phoenix House

Sycamore Lodge

The Glynne

Ty Cerrig

 

 

Wedi ei bostio ar 18 July 2018