Ydych chi’n falch o fod yn weithiwr gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant?
Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch eich gwaith?
Ydych chi wedi meddwl am fod yn llysgennad gofal?
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ydym yn recriwtio nawr...
Nod y rhaglen llysgenhadon gofal yw codi proffil y sector gofal cymdeithasol a'r sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ogystal â'u hyrwyddo fel dewisiadau gyrfa sy'n rhoi mwynhad, boddhad a llwyddiant. Mae llysgenhadon yn helpu addysgu pobl am y gwahanol ddewisiadau gyrfa sydd ar gael a'r cyfleoedd ar gyfer datblygu.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n gallu symbylu ac ysbrydoli pobl i ystyried gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant fel gyrfa pleserus a buddiol.
Gallai gynnwys:
- siarad â myfyrwyr mewn ysgolion neu golegau yn eich ardal
- cynnal sgyrsiau neu drafodaethau anffurfiol
- mynychu digwyddiadau gyrfa a chynadleddau.
Gall llysgenhadon gofal fod ar unrhyw lefel gyrfa ond rhaid iddyn nhw fod yn ymroddedig, yn hyderus ac yn gyfathrebwyr da â chynulleidfa eang. Mae’r rôl hon yn un wirfoddol, felly bydd angen i chi gael cefnogaeth eich cyflogwr.
Beth yw’r buddion i chi?
- datblygu hyder a sgiliau ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus
- ychwanegiad cadarnhaol at eith CV
- hyrwyddo gyrfaoedd gofal cymdeithasol, a helpu i recriwtio gweithwyr y dyfodol.
Ddiddordeb?
Ffyona Usher: Ffyona.usher@socialcare.wales
Rhaglen llysgenhadon gofal
Wedi ei bostio ar 05 September 2018