Mae'r GIG yng Nghymru yng nghanol brwydro'r pandemig COVID-19.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi eu GIG lleol yn ystod y cyfnod eithriadol o heriol hwn.
Ni fydd cynllun Gwirfoddolwyr Cyhoeddus BIPBC yn cymryd lle grwpiau lleol sy'n helpu eu cymdogion bregus ond mae'n wasanaeth ychwanegol a ddarperir gan BIPBC.
Rhaid i wirfoddolwyr fod dros 18 mlwydd oed, yn gorfforol ffit, iach a heb symptomau. Os ydych chi'n 70 neu'n hŷn, mae'r llywodraeth wedi cynghori eich bod chi'n cymryd rhagofalon ychwanegol i osgoi mynd yn sâl. Os ydych chi'n 70 neu'n hŷn gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y tasgau y gallwch eu gwneud gartref yn unig.
Bydd y tasgau a roddir i chi yn amrywio, ond dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gellir gofyn i chi ei wneud:
Tasgau yn y Gymuned neu yn y Cartref
- Gwirfoddolwr ffôn: Mae'r rôl hon yn darparu cefnogaeth ffôn tymor byr i unigolion sydd mewn perygl o unigrwydd o ganlyniad i hunan-ynysu.
- Gwirfoddolwr Trafnidiaeth y GIG: Mae'r rôl hon yn cynnwys cludo offer, cyflenwadau a / neu feddyginiaeth rhwng gwasanaethau a safleoedd y GIG, gall hefyd gynnwys cynorthwyo fferyllfeydd i ddarparu meddyginiaeth.
- Gwirfoddolwr Cludiant Cleifion: Mae'r rôl hon yn cefnogi'r GIG trwy ddarparu cludiant i gleifion sy'n ffit yn feddygol i'w rhyddhau, a sicrhau eu bod yn setlo'n ddiogel yn ôl i'w cartref.
- Gwirfoddolwr Ymateb Cymunedol: Mae'r rôl hon yn cynnwys casglu siopa, meddyginiaeth neu gyflenwadau hanfodol eraill ar gyfer rhywun sy'n hunan-ynysu, a danfon y cyflenwadau hyn i'w cartref.
- Gwirfoddolwyr cymorth gweinyddol yn y cartref: Gall y rôl hon gynnwys helpu gyda negeseuon cyfryngau cymdeithasol, cysylltu â busnesau lleol i gael cefnogaeth mewn nwyddau neu gymorth cyfieithu, yn dibynnu ar eich set sgiliau a'ch diddordeb.
- Gwirfoddolwr lletygarwch: Mae'r rôl hon ar gyfer gwestai neu berchnogion cartrefi gwyliau a allai ddarparu llety i weithwyr allweddol sydd angen byw i ffwrdd oddi wrth aelodau teulu risg uchel, neu sydd angen aros yn agos at ysbyty, a pherthnasau cleifion sydd angen aros yn agos.
Tasgau yn yr ysbyty
- Gwirfoddolwr cymorth anghlinigol: Mae'r rôl hon yn cynnwys dyletswyddau gweinyddol neu lanhau cyffredinol i ffwrdd o ardaloedd cleifion, er enghraifft cefnogi cofnodion meddygol, dyletswyddau glanhau i ffwrdd o ardaloedd cleifion neu gefnogi staff arlwyo.
- Gwirfoddolwr cymorth gweinyddol clinigol: Mae'r rôl hon yn cynnwys dyletswyddau gweinyddol neu lanhau cyffredinol mewn ardaloedd cleifion, er enghraifft cefnogi cofnodion meddygol, dyletswyddau glanhau mewn ardaloedd cleifion neu gefnogi staff arlwyo mewn ardaloedd cleifion.
- Gwirfoddolwr Cymorth Cleifion: Mae'r rôl hon yn darparu cefnogaeth i gleifion ar lefel sylfaenol e.e. cynorthwyo gyda maeth, gweini bwyd a diodydd, helpu cleifion i symud o gwmpas, cyrchu cyfleusterau toiled ac ati.
- Gwirfoddolwr Cymorth Cleifion Uwch: Yn darparu cefnogaeth i gleifion â'u hanghenion gofal personol o dan arweiniad Cynorthwyydd Gofal Iechyd neu Nyrs Gofrestredig e.e. cefnogi cleifion i olchi a gwisgo, bwydo claf, cefnogi ag anghenion toiledau ac ati.
Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth. Bydd gwirfoddolwyr yn cael arweiniad gan staff hyfforddedig. Darperir unrhyw hyfforddiant angenrheidiol i wneud y tasgau gwirfoddol.
Os byddwch chi'n mynd yn sâl, gallwch roi'r gorau i wirfoddoli am gyfnod wrth gwrs.
Mae'r rhaglen hon yn galluogi gwirfoddolwyr i ddarparu gofal neu roi cymorth i unigolyn bregus, a ganiateir o dan y rheolau newydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar 23 Mawrth 2020. Efallai y gofynnir i wirfoddolwyr ddangos prawf o'r dasg weithredol y maent yn ymateb iddi os gofynnir iddynt wneud hynny.
Er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, rhaid llenwi'r ffurflen
Wedi ei bostio ar 01 April 2020