Mae Sir y Fflint yn le i'w alw'n gartref

place to call home
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint groesawu adolygiad positif o gartrefi gofal yn y Sir pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf.

Yn 2017, cynhaliodd Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru adolygiad dilynol o'i hadolygiad "Lle i'w Alw'n Gartref?" yn 2014, yr adolygiad mwyaf erioed i gael ei gynnal i ansawdd bywyd a gofal am bobl hÅ·n mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Cafodd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru, 7 Bwrdd Iechyd Lleol, Llywodraeth Cymru a AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) eu hadolygu a'u dadansoddi yn erbyn eu 'Gofynion ar gyfer Gweithredu' mewn 15 maes penodol fel yr amlinellir yn adolygiad 2014.

Mae Sir y Fflint yn un o bedwar awdurdod lleol, a'r unig awdurdod yng Ngogledd Cymru, i gael y sgôr uchaf ym mhob un o'r 15 maes. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi Sir y Fflint fel enghraifft o arfer arloesol ac arfer orau ar bum achlysur.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

"Mae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn un y dylem fod yn falch iawn ohono. Oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein gweithlu bendigedig, gall pobl hÅ·n Sir y Fflint fod yn sicr y byddant yn cael y gofal gorau posibl ar adeg pan allent fod yn teimlo'n ddiamddiffyn ac yn ansicr am eu dyfodol.

"Fel y mae'r adolygiad yn nodi – mae darparu gofal mewn lleoliad cartref gofal yn ymwneud â mwy na bod yn ddiogel a chwrdd ag anghenion corfforol sylfaenol, mae hefyd yn ymwneud ag ansawdd bywyd."

Gwnaeth y Comisiynydd nodi y gallai Sir y Fflint wneud mwy o waith i wella tystiolaeth o ganlyniadau ac y dylid darparu data mwy ystyrlon a mesuradwy i ddangos ein gwelliannau ymhellach. Rydym wedi symud ymlaen â hyn fel cam gweithredu.
Wedi ei bostio ar 15 March 2018