Llwybrau i Ofal Cymdeithasol

Pathways in to social care

Mae Cymunedau Am Waith Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi darparu dwy raglen hyfforddiant “Llwybr i Ofal Cymdeithasol” yn llwyddiannus unwaith eto, i roi cyfle i bobl leol ennill yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol.

Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, mae’n helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Mae’r rhaglen yn targedu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint. Mae’n ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal â’u helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.

Roedd y cyrsiau uwch Llwybrau i Ofal Cymdeithasol hyn, a gynhaliwyd dros bum niwrnod, yn rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr dderbyn hyfforddiant gorfodol gofynnol i weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys: diogelu, rheoli haint, diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch, y cyfan yn cynnwys safon a gymeradwy-wyd gan Sir y Fflint i weithio mewn sefydliadau gofal ar draws y sir.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Mae’r cyrsiau "llwybr" hyn yn gyfle gwych i bobl ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith mewn sector sydd o ddiddordeb iddynt. Nid yn unig mae’r cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
“O fewn degawd, mi fydd arnom ni angen 20,000 o bobl ychwanegol i weithio yn y sector gofal yng Nghymru. Mae cyrsiau fel hyn yn gyfle gwych i gyflwyno pobl leol i’r sector a helpu i uwchsgilio a chefnogi pobl yn y diwydiant i ddal i fyny gyda’r galw cynyddol am wasanaethau gofal.

“Mae’n wych bod sawl un o’r mynychwyr ar y cyrsiau diweddar wedi dod o hyd i waith yng nghynlluniau gofal ychwanegol Sir y Fflint a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint.”

Am wybodaeth bellach ynghylch Cymunedau am Waith, neu os hoffech chi gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r rhaglenni llwybr, cysylltwch â'r swyddfa ar 01352 704430.

Wedi ei bostio ar 12 March 2020