Llwybr i Ofal Cymdeithasol

default-news-image

Mae preswylwyr lleol wedi cael hyfforddiant, sgiliau a phrofiad yn y sector gofal cymdeithasol yn ddiweddar, diolch i Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint.

Roedd 10 cyfranogwr ar y cwrs dwy wythnos o hyd a gwnaethant elwa o'r hyfforddiant ac ennill cymwysterau mewn sawl pwnc, gan gynnwys: diogelu ac amddiffyn, iechyd a diogelwch yn ogystal â chymorth cyntaf, cyfathrebu yn Gymraeg a thrin a symud yn gorfforol.

Rŵan eu bod wedi cwblhau'r cwrs, cânt gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu a phrofiad gwaith i helpu i wella eu gwybodaeth o'r sector gofal cymdeithasol.


Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

"Mae'r cyrsiau "llwybr" hyn yn gyfle ardderchog i bobl gael profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith yn y sector sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae'r cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, a gallant hefyd fanteisio ar gyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.

Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithio i gefnogi, gwella sgiliau a chynnig profiad i unigolion gan helpu i wella eu cyfle o ddod o hyd i waith. 


Wedi ei bostio ar 08 March 2018