Mae Cyngor Sir y Fflint wedi datblygu map ar-lein i gynorthwyo trigolion i ddod o hyd i wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal leol.
Mae dau gategori gwasanaeth ar y map ar hyn o bryd, sef:
- dosbarthu llaeth a
- bwyd (dosbarthu, casglu bwyd a bwyd tecawê)
Byddwn yn ychwanegu dau wasanaeth arall cyn gynted â phosibl:
- cefnogaeth (cefnogaeth iechyd meddwl, cyfeillgarwch dros y ffôn ac ati) a
- siopa (casglu siopa, presgripsiynau ac ati).
I weld y map, cliciwch yma. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Google Chrome.
Gallwch gael gafael ar ganllaw defnyddiwr (Saesneg yn unig ar hyn or bryd) ar-lein yma.
Wedi ei bostio ar 06 April 2020