#GofalwnCymru

WeCare9

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch Gofalwn.

Bydd angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni'r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.   

Mae’r ymgyrch yn gydweithrediad rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau arweiniol sy’n cynrychioli’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ynghyd â chyrff cenedlaethol eraill sy'n ymwneud â chwilio am waith a chyngor gyrfaol.

Mae’n rhan o strategaeth hirdymor i ddatblygu’r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y ddegawd nesaf er mwyn cynnig gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Ar hyn o bryd mae 1 ymhob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), sy’n golygu bod y maes yn cyflogi mwy o bobl na’r GIG. Ond mae’r maes gwaith hwn yn dal i dyfu. 

Mae ymgyrch Gofalwn yn dangos yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael. 

Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil Ayling:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi ymgyrch Gofalwn Cymru - prif bwyslais yr ymgyrch bresennol yw annog mwy o ddynion yn arbennig, a mwy o siaradwyr Cymraeg i ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol.  

“Mae tîm Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint yn gweithio i uwchsgilio a chefnogi pobl i'r diwydiant, er mwyn dal i fyny â’r galw cynyddol am wasanaethau gofal. Mae wedi cynnal sawl cwrs "llwybr", lle mae cyfranogwyr yn elwa ar gymwysterau gwerthfawr yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd blasu gwaith a phrofiad gwaith sydd ar gael."  

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Yng Nghymru, mae tua 90,000 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, tra mae 23,000 yn gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Fodd bynnag, mae angen mwy o bobl arnom ni o hyd os ydyn ni am ddiwallu anghenion a disgwyliadau cymdeithas dros y 10 mlynedd nesaf. 

“Gall gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn drwm, ond mae hefyd yn hynod werthfawr. Mae'r ymgyrch Gofalwn wedi'i datblygu i ddenu'r bobl iawn i gefnogi rhai o'r aelodau mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau neu helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

“Mae amrywiaeth o rolau ar gael yn gweithio gydag oedolion a phlant, yn ogystal â chyfleoedd i ennill cymwysterau tra’n gweithio a datblygu gyrfaoedd.  Mae cymwysterau newydd ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael eu lansio o fis Medi eleni ac mae'r ymgyrch hon yn rhan o gynllun ehangach i sicrhau bod gennym weithlu ar draws gwasanaethau gofal ac iechyd a fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru yn y dyfodol.” 

I gael rhagor o wybodaeth am rai o’r rolau sydd ar gael ac i weld enghreifftiau o’r bobl real sy’n gweithio yng Nghymru a’r rheiny y maen nhw’n eu cefnogi, ewch i Gofalwn.cymru.

Wedi ei bostio ar 28 November 2019