Ffair Swyddi Rithiol Gofal Gogledd Cymru - Tachwedd yr 20fed

Social Care images8

Ma’ ffair swydd rithiol ar gyfer y sector gofal yn cael ei gynnal i gefnogi rheiny sydd yn chwilio am waith ynghyd a darparwyr er mwyn amlygu a rhannu swyddi gwag yn ogystal a rhannu adnoddau defnyddiol i recriwtio pobl newydd i fwynhau gyrfa gwobreuol a boddhaus yn y sector.

Mae’r digwyddiad dwyieithog Ffair Swyddi Rithiol Gofal Gogledd Cymru yn cymryd lle ar ddydd Gwener, Tachwedd yr 20fed rhwng 10yb – 12yp ar blatfform digwyddiadau Facebook ac yn cael ei gynnal gan dîm Gofalwn Cymru y Gogledd.

Nod y digwyddiad yw i gefnogi rheiny sydd yn gwynebu diwedd ffyrlo, yn ddi-waith neu rheiny sydd mewn o perygl o gael eu diswyddo o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 yn ychwanegol i dargedu rheiny sydd megis cychwyn ar eu llwybrau gyrfa neu targedu rheiny sydd yn edrych i drosglwyddo eu sgiliau a newid eu llwybr gyrfa.

Ma’ rhaid i gyflogwyr sydd eisiau cymryd rhan gofrestru a chwblhau profforma erbyn y 9fed o Dachwedd, rhaid i gyflogwyr warantu bod dyddiad cau y swyddi wedi’r digwyddiad ar yr 20fed o Dachwedd. Gallwch dderbyn mwy o wybodaeth a derbyn y canllawiau i ddarparwyr drwy cysylltu efo; GwennoAngharadWilliams@gwynedd.llyw.cymru

Dyma ddolen i’r digwyddiad; https://www.facebook.com/events/810736469753391

Mae rhaid cofrestru eich bod yn mynychu’r digwyddiad i dderbyn unrhyw negeseuon ac i rannu swyddi a chyfleon.

Welwn i chi yna!

Wedi ei bostio ar 05 November 2020