Eich Llwybr i Ofal Cymdeithasol Hydref

WeCare Portal
  • A hoffech chi yrfa sy’n rhoi boddhad i chi?
  • Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun?

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint wedi creu cyfle i chi dderbyn hyfforddiant, dysgu sgiliau newydd ac ennill profiad yn y sector Gofal Cymdeithasol.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sydd yn gweithio i gefnogi, uwchsgilio a chynnig profiadau i unigolion a fydd yn helpu i wella eu cyfleoedd cyflogaeth.

Hoffech chi fod yn rhan o’r cyfle unigryw a chyffrous yma i ddatblygu eich gyrfa a’ch personoliaeth? Hoffech chi’r cyfle i gael hyfforddiant achrededig ac ennill y sgiliau angenrheidiol i ymgeisio am swyddi o fewn y Sector Gofal Cymdeithasol???

Dyddiadau: 11 - 15 Hydref 2021

Tŷ Dewi Sant, Ewlo


5 diwrnod llawn o hyfforddiant, i gynnwys:

  • Pasbort Symud a Lleoli
  • Cwrs Meddyginiaeth
  • Rheoli Heintiau
  • Diogelwch Bwyd
  • Epilepsi a Meddyginiaeth Achub
  • Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Iechyd a Diogelwch
  • Ymwybyddiaeth Diogelu Plant ac Oedolion

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia Parry o Gymunedau am Waith ar 07770633453 neu anfonwch e-bost at: nia.parry@flintshire.gov.uk.

 Eich Llwybr i Ofal Cymdeithasol

 

 

Wedi ei bostio ar 28 September 2021