Diwrnod ym mywyd Vernon ...

vernon

Fy enw i ydi Vernon Bailey, dw i wedi dod dros ddibyniaeth ar gyffuriau ac yn gweithio gyda CAIS yn Hafan Wen fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

 Dw i wedi dod dros ddibyniaeth ar gyffuriau; mi fydd y ffyrdd hynny o ymddwyn yn dal i fod y tu mewn i mi, ond dw i’n dewis peidio eu defnyddio nhw. Dw i’n dewis eu sianelu nhw mewn ffordd dda erbyn hyn, yn hytrach na fy hen ffyrdd cyfrwys. Dydi dibyniaeth ddim am ddwyn unrhyw beth oddi arna' i ddim mwy.

Mi allwch chi ddod yn rhydd rhag dibyniaeth, mae o’n bosib. Mae’n waith caled ar adegau, ond mae mor hawdd neu mor anodd ag yr ydych chi eisiau iddo fo fod. Mae’n rhaid i chi ‘hyfforddi’n galed i ymladd yn hawdd’. Mi ddysgon nhw hynny i mi yn y Fyddin. Dw i’n hyfforddi’n galed, bob dydd rŵan, i fyny yn fan hyn, ac mae’n gwneud gweddill fy mywyd i mor hawdd.

Rydw i’n caru bywyd rŵan, a feddyliais i erioed y byddwn i’n dweud hynny. 18 mis yn ôl ro’n i eisiau marw. Ro’n i’n meddwl nad oedd gen i unrhyw reswm i fyw, ond mae gen i bob rheswm i fyw rŵan a dw i’n caru fy mywyd, felly ewch amdani bobl.

(yn y Gymraeg)

Ddwy flynedd yn ôl, mi wnes i ddechrau’n ôl ar herion a crac cocên. Ro’n i hefyd ar lot o gyffuriau ar bresgripsiwn; pregablin, diazepam a dihydracodeine. Mi wnaeth o ddechrau pan es i i ysbyty Glan Clwyd i gael triniaeth ddadwenwyno ‘nghorff ar ôl alcohol. Ond mi ges i glot gwaed.

Mi ges i lawdriniaeth ac fel ro’n i’n deffro, wna i byth anghofio’r Doctor yn dweud, “Wyt ti eisiau rhywbeth i ladd y boen?” “Be’ sydd gen ti?" “Mae gen i dihydracodeine”.

Doedd dim angen iddo fo ddweud unrhyw beth arall wrtha’ i. “Mi gymera’ i hwnna’”– mi oeddwn i wrth fy modd doeddwn? Mi gymerais i hwnnw. Yna, mi feddyliais i tybed beth arall fyddai’n dda? Diazepam. Felly mi es i at y Doctor a dweud, “Dw i ddim yn teimlo’n rhy dda, dw i’n dioddef o orbryder”.  Mi roddodd o fi ar diazepam.

Felly mi adewais i’r ysbyty gyda diazepam a dihydracodeine. Yna, mi es i at fy GP fy hun a, ryw ffordd neu’i gilydd, mi berswadiais i’r Doctor i roi pregablin i mi.

Felly beth o’n i’n ei wneud wedyn oedd cymryd y tabledi ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, ac ar ddydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul ro’n i’n cymryd herion a crac cocên. Mi gollais i reolaeth yn llwyr cyn i mi sylweddoli.  Ro’n i’n ceisio dal swydd (oedd yn amhosib), felly fy nhrefn arferol i bob bore, am nad o’n i wedi cysgu, oedd yfed ychydig o fodca i dawelu rhywfaint arna’ i.  Mi es i o yfed chwarter potel i hanner potel cyn mynd i weithio. Cyn bo hir, ro’n i'n yfed hanner potel o fodca, yn smocio sbliff neu ddau, yn cymryd ambell i linell o côc a rhywfaint o heroin, dim ond i dawelu ychydig arna' i fy hun yn y bore. O ia, ac yn mynd heibio siop Spar i nôl 6 o ganiau cyn cinio.

(Yn y Saesneg)

Mi lwyddais i i ddod drwyddi, ac mi es i i rywle o’r enw ‘Phoenix Futures’ ar y Wirral. Dair i bedair wythnos i mewn, mi wnes i gychwyn 'deall' y rhaglen a phigo pethau allan o'r rhaglen, gofyn y cwestiynau iawn i’r bobl iawn. Achos mae gennych chi 30 o gymheiriaid yno, gyda tua 10 mlynedd o ddibyniaeth yr un, ddywedwn ni; dyna i chi 300 mlynedd o wybodaeth rhyngddyn nhw. Chewch chi ddim gwell cwnselydd na hynna. Roedden ni'n arfer gofyn cwestiynau i’n gilydd a sylwi ar ymddygiad y naill a’r llall, tynnu sylw atyn nhw, a gweithio arnyn nhw.

Sut wnest ti ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol?

Mi orffennais i fy adferiad, gymerodd 5 mis. Roedd hynny’n fwy na digon. Mi ffoniais i Mel, am ‘mod i’n cofio Mel yn dweud “Os arhosi di’n lân am 6 mis, mi ga’ i swydd i ti yma”. Felly dyma fi’n ffonio Mel a dweud “ga’ i dderbyn dy gynnig di?”

 Mi ddechreuais i weithio’n wirfoddol, a gwneud hynny am tua 3 mis, ac rydw i’n gweithio yma rŵan. Mae gen i swydd yma rŵan.

 Rydw i hanner ffordd drwy fy NVQ Lefel 3 erbyn hyn. Mi wnes i Lefel 1 a 2 tra bod gen i ‘ymrwymiadau’ i’w gwneud yn y ganolfan adfer. Pan wyt ti’n datblygu’n gleient ‘uwch’ rwyt ti’n cael 2 ddiwrnod allan o'r tŷ ac mi gei di wneud beth bynnag wyt ti eisiau ei wneud.  Maen nhw’n galw hyn yn ‘ymrwymiadau’. Ond doeddwn i ddim am wastraffu’r dyddiau hynny, felly mi wnes i ddefnydd da ohonyn nhw a mynd i'r coleg i gychwyn cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Chamddefnyddio Cyffuriau, er mwyn ennill Lefel 1 a 2.  Mi lwyddais i i wneud y ddau mewn 12 wythnos. Mi ges i lawer o help gan y tiwtor, chwarae teg iddi. Roedd hi eisiau i mi lwyddo cymaint ag yr o’n i eisiau llwyddo.

Felly'r syniad ydi yr hoffwn i basio fy Lefel 3 eleni, 4 a 5 y flwyddyn nesaf ac yna, y prif beth rydw i eisiau ei wneud ydi cael fy ngradd. Dydw i erioed wedi cael un, ac dw i wastad wedi bod eisiau un, felly dw i am gael un.

Beth wyt ti’n ei fwynhau am weithio mewn gofal cymdeithasol?

Yn fwy na dim, dw i’n hoffi helpu’r bobl hynny sy’n cael trafferth, yn eu sicrhau nhw fod hyn yn bosib. Dw i wedi bod ar eu taith nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw fynd trwy’r hyn maen nhw’n ei ddioddef ar hyn o bryd, ond gyda’r cymorth ychwanegol yna o wybod ‘mod i wedi dod dros ddibyniaeth ar gyffuriau, ‘mod i wedi’i wneud o, mae o’n rhoi’r gefnogaeth ychwanegol yna iddyn nhw. Gobeithio’i fod o’n rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth iddyn nhw.

 Dw i wedi gweld dipyn yn dod drwodd yma rŵan, ddylwn i ddim cael ffefrynnau, ond mae gen i. Mae gennym ni i gyd. Bodau dynol ydyn ni ynte? Ti’n cael yr ‘anterth’ anhygoel yma o helpu’r bobl yma i gael eu dadwenwyno, o’r diwrnod y maen nhw’n cyrraedd i’r diwrnod y maen nhw’n gadael. Mae’n braf gweld ‘enillwyr’ yn mynd drwy’r drws. Rydyn ni i gyd yn gwybod bryd hynny, fel tîm, ein bod ni wedi rhoi 100% iddyn nhw ac o bosib wedi achub eu bywydau nhw.

 Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n dymuno gweithio ym myd gofal cymdeithasol?

Wn i ddim go iawn, yr oll y galla' i ei ddweud ydi ei bod hi’n swydd sy’n rhoi cymaint o foddhad. Am ‘mod i mor frwdfrydig drosti hi, does yna ddim atebion cywir ac anghywir. Mae’n swydd anhygoel i fod ynddi hi. Dw i’n gweithio gyda thîm anhygoel yma, o’r rheolwyr i lawr i ni’r ‘gweithwyr gofal iechyd’. Rydyn ni i gyd yn dod ymlaen ac yn gweithio fel tîm. Mae’n swydd anhygoel i fod ynddi hi. Biti na faswn i wedi ei gwneud hi flynyddoedd yn ôl.

Does gen i ddim ond cariad tuag at y merched yma. Maen nhw wedi gofalu amdana' i a ‘ngwella i. Fyddwn i ddim yma rŵan heb y tîm gofal iechyd yma, a’r nyrsys a’r doctoriaid wrth gwrs. Fyddwn i ddim yma. Pan mae pobl eraill wedi cael llond bol o wrando arna ti, am dy fod di wedi bod yn mynd ymlaen fel tiwn gron, pan ddoi di i le fel hyn, mae gen ti’r llinell gynta’ yna, sef ‘gofal iechyd’, ac maen nhw’n eistedd lawr ac yn gwrando arna ti.  Dydi hi ddim bwys ganddyn nhw ei bod hi'n 3 o'r gloch y bore, maen nhw yna i ti.

Mae’n dîm anhygoel yma, tîm anhygoel, ac rydw i mor falch ohona’ i fy hun am fod yn rhan ohono fo.

Diolch Vernon!

Wedi ei bostio ar 05 June 2019