Helo, Pauline Arrow-Smith ydw i ac rydw i’n Uwch Ofalwr yng Nghartref Gofal Willowdale.
Wyt ti’n teimlo dy fod yn gallu gwneud gwahaniaeth?
Bob dydd, mi ydw i’n dod drwy’r drws yn gwybod fy mod i am wneud gwahaniaeth. Mae pobl yma gan nad ydyn nhw’n gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain, a’n gwaith ni ydi gwneud hynny. Rydw i’n ceisio rhoi 100% i wneud hynny bob dydd.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy rôl?
Bob dim, a dweud y gwir. Mae’n braf dod i mewn a chynnig y sicrwydd maen nhw ei angen. Yn amlwg, maen nhw'n teimlo'n isel weithiau, ac mae eistedd a gwrando'n werthfawr iawn iddyn nhw. Mae hi’n swydd galed a phan ydych chi wedi gofalu am breswylydd am amser maith a, mwyaf sydyn, maen nhw'n dechrau dirywio – dyna'r darn anodd i ofalwr. Mae rhywun yn eu cofio nhw fel oedden nhw wrth gyrraedd, yn gallu gwneud rhywbeth penodol drostynt eu hunain, ac yna mae eu hanghenion gofal nhw’n newid yn sydyn. Nid bob wythnos, ond bob diwrnod.
Rydw i’n mwynhau gallu rhoi sicrwydd iddyn nhw ein bod yn gallu gofalu amdanyn nhw a’n bod ni yma fel ffrind, nid gofalwr yn unig.
Pam dy fod ti’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol?
Mae llawer o fy ffrindiau’n dweud ‘Dwi’n dy edmygu di, achos allwn i ddim gwneud dy swydd di’.
Mi ydw i wrth fy modd yn gweld gwên ar eu wynebau. Mi ydw i'n ofalwr ’chydig bach yn 'wirion'. Mi ydw i'n canu ac yn dawnsio ac rydw i'n gwneud hynny i gyd, ac mae'n codi eu calonnau nhw. Mae hi hefyd yn braf, wrth ddod yn ôl ar ôl gwyliau, eu bod nhw’n gofyn ‘lle wyt ti wedi bod’. Mae’n braf gwybod eu bod nhw’n eich colli chi.
Mae rhai pobl heb neb. Mae rhai pobl heb ŵr na theulu na phlant, mae rhai’n hen lanciau, felly pan maen nhw’n dod yma, mae ganddyn nhw gwmni a’r sicrwydd hwnnw. Gallwn ni sgwrsio gyda nhw a gwrando ar eu problemau. Weithiau, fe fyddwn ni’n dweud ‘mae’n rhaid i ni fod ar yr un lefel, mae’n rhaid i ni ddeall’.
Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am weithio ym maes gofal cymdeithasol?
Rho gynnig arni! Nid yw’n addas i bawb, dwi’n deall hynny, ond rho gynnig arni, oherwydd mae'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw. Mae’n anodd o bryd i’w gilydd, ond pa swydd sydd ddim? Cer amdani a rho gynnig arni, ac os wyt ti’n ei hoffi, dal ati, oherwydd mae’n rhoi boddhad mawr.
Beth wyt ti'n ei feddwl o'r farn negyddol am ofal cymdeithasol?
Mae’n fy ngwylltio i. Ewch i roi cynnig arni. Mae'n swydd sy’n rhoi llawer o foddhad. Nid yw pob gofalwr yr un fath. Mae ambell un cas i’w cael, ond mae rhai da iawn i’w cael hefyd. Mae angen i ni glywed mwy am y rhai da.
Mae ’na raglenni dogfen ac eitemau ar y newyddion am bethau sy’n digwydd mewn cartrefi gofal sy’n codi braw, ond dydyn ni byth yn gweld ochr dda cartref gofal da.
Beth ydi cartref gofal da? Dw i’n meddwl bod y staff yn help mawr. Os oes gennych chi staff da ac os oes ganddyn nhw enw da ymysg y preswylwyr, dw i'n meddwl y bydd hwnnw'n iawn. Yn y llefydd rydw i'n gweithio ac mewn cartrefi gofal eraill, mae'r gefnogaeth honno ar gael i bobl ac maen nhw'n teimlo'n ddiogel. Maen nhw’n gwybod bod y gloch ganddyn nhw a'u bod yn gallu ein galw ni pan maen nhw angen. Rydyn ni yno, ac fe wnawn ni beth allwn ni i’w gwneud nhw’n fwy cyfforddus tra bo angen – sydd, gobeithio, yn amser maith iawn.
Mae’n beth trist iawn i ni pan maen nhw’n marw. Rydyn ni eisiau iddyn nhw fyw am byth, ond yn gwybod nad felly mae hi. Fe fyddwn ni dan deimlad, ond wedyn yn gwylltio gyda ni ein hunain ac wedyn yn meddwl ‘na, pobl ydyn ni’ ac mae rhywun yn creu cysylltiad â phob un ohonyn nhw. Mae rhywun yn mynd yn emosiynol wrth feddwl am y peth. Mae o'n anodd.
Diolch Pauline
Wedi ei bostio ar 21 March 2019