Julie Webber – Fy siwrnai fel gofalwr
Rwyf wedi bod yn Gymhorthydd Gofal Cartref â Bluebird Care ers 5 mis bellach, ac rwyf wrth fy modd. Mae helpu pobl nad ydynt yn gallu helpu eu hunain yn deimlad gwych. Mae’n swydd werthfawr iawn, ac rwyf hefyd yn mwynhau teithio o un tŷ i’r llall gan fy mod yn gallu cadw fy annibyniaeth.
Roeddwn yn gweithio i gwmni glanhau cyn imi benderfynu sefydlu fy nghwmni fy hun, bues yn rhedeg y busnes yn llwyddiannus am 3 mlynedd. Pan oeddwn yn glanhau, roeddwn yn ymweld â chartrefi pobl hŷn yn ogystal â phobl â dementia. Awgrymodd gofalwr a oedd yn gweithio yng nghartref un o’m cwsmeriaid y dylwn i ystyried bod yn ofalwr, dywedodd fod gennyf y bersonoliaeth iawn ac y byddwn i'n ofalwr gwych. I ddechrau, roedd y syniad o ddarparu gofal personol i gwsmeriaid yn codi ofn arnaf, ond ar ôl sgwrsio â staff Bluebird Care, roeddwn yn teimlo'n fwy hyderus ac yn fwy cyffrous am y syniad o fod yn ofalwr.
Nid oedd gennyf i CV, ac roeddwn yn poeni am ysgrifennu un, ond diolch byth, cefais gymorth gan aelod o deulu. Roeddwn yn awyddus i ddychwelyd yn ôl i'r gwaith yn dilyn triniaeth gyffredin, ac roeddwn yn barod i wneud cais am swydd Cymhorthydd Gofal. Roeddwn yn edrych ymlaen, ond ychydig yn bryderus am ddechrau hyfforddiant mewn gyrfa newydd.
Mi wnes i fwynhau’r hyfforddiant yn fawr, y sesiynau wyneb yn wyneb yn ogystal â’r e-ddysgu. Roedd yn waith caled ac ymarferol, ond teimlais fy mod wedi derbyn cefnogaeth lawn drwy gydol yr hyfforddiant. Yn dilyn fy sifftiau cysgodi, roeddwn yn teimlo’n ddigon hyderus i ddarparu gofal ar fy mhen fy hun, a dechreuais weithio heb oruchwyliaeth. Trwy gydol y 12 wythnos cyntaf, roeddwn yn derbyn cefnogaeth gan dîm y swyddfa, cydweithwyr eraill a goruchwylwyr pan oeddwn i yn y swyddfa yn ogystal â phan oeddwn i allan yn darparu gofal. Rwyf yn parhau i dderbyn cefnogaeth.
5 mis yn ddiweddarach, RWYF WRTH FY MODD – rwyf wrth fy modd â’r perthnasoedd yr wyf wedi’u datblygu â'r cwsmeriaid, rwy'n mwynhau gofalu am bobl a darparu cymorth iddynt.
Nid wyf yn difaru cymryd y cam i fod yn Gymhorthydd Gofal Cartref o gwbl, ac rwy'n edrych ymlaen at weld pa gyfleoedd sydd o fy mlaen i’r dyfodol!
Wedi ei bostio ar 31 May 2019