Cyflwyna dy hun i ni
Dai Williams ydw i o Landrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn ac rydw i’n Ofalwr Rhannu Bywydau
Dyweda Wrthym Ni am Rhannu Bywydau
Fel rheol mae gennym 2 neu 3 o bobl ifanc dros 18 oed yn byw gyda ni. Oedolion sydd ag Anableddau Dysgu.
Mae’n golygu llawer. Mae gennych eich hun, rydych chi’n rhannu eich tŷ ac rydych chi’n ceisio helpu pobl sydd yn cael anhawster byw mewn cymdeithas am resymau gwahanol, neu anhawster byw gyda theulu am resymau gwahanol.
Disgrifia ddiwrnod arferol i ni yn dy rôl.
Rydym ni’n codi toc wedi 6, rydym ni’n gwneud brechdanau i’n pobl ifanc, mae’n well gan rai wneud eu brechdanau eu hunain. Rydym ni’n eu paratoi am ddiwrnod allan, neu ‘gwaith’ fel y maen nhw’n ei alw. Rydym yn sicrhau eu bod yn cyrraedd yn ddiogel, yna dwi’n paratoi i fynd â phobl sydd â dementia allan gan fy mod yn gwneud gwaith ‘TRIO’ a Rhannu Diwrnodau.
Rydym ni’n mynd â phobl allan am y diwrnod. Mae’n golygu llawer, yn enwedig i mi, gan eich bod yn mynd â’r person allan i fwynhau ei hunain, ond rydych chi hefyd yn rhoi seibiant i’r partner neu’r teulu gartref. Mae hynny’n rhoi diwrnod iddynt rhoi trefn ar bethau. Efallai y bydd rhai’n cysgu drwy’r dydd gan nad ydynt yn llwyddo i gael cwsg yn ystod y nos. Mae’n bwysig iawn fod hyn yn cario yn ei flaen i gael y bobl allan ac i’r bobl gartref gael cyfle i orffwys hefyd.
Beth wyt ti’n ei wneud pan rwyt ti’n mynd allan gyda phobl sy’n byw gyda dementia?
Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud am ddiwrnod yn dibynnu ar yr unigolyn. Rydych chi’n gwneud yr hyn mae nhw’n hoffi ei wneud. Roeddwn i’n arfer gofalu am ŵr a arferai chwarae pêl-droed i Everton, felly fe aethon ni i gael pêl-droed Everton am y diwrnod. Dwi’n gofalu am ŵr ar hyn o bryd a arferai chwarae i Wrecsam, felly rydw i wrthi’n trefnu taith i Wrecsam. Roeddwn i’n arfer gofalu am ŵr oedd yn arfer canu mewn côr, felly roeddem ni’n mynd i ganu bob cyfle gaem ni. Mae’n ffordd iddynt gofio amseroedd hapus. Mae rhai’n hoffi mynd i siopa, felly dwi’n mynd â nhw i siopa.
Fedri di feddwl am amser lle rwyt ti wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?
Gallaf a dweud y gwir. Roedd gennym ŵr yng Nghonwy. Y tro cyntaf i mi ei weld, roedd yn gwrthod dod allan o’r tŷ. Roedd yn siarad Cymraeg a dwi’n siarad Cymraeg hefyd.
Fe gymerodd tua awr i mi siarad gyda’r gŵr i ddweud ‘agorwch y drws i mi’r wythnos nesaf, ac mi ddof i i’ch gweld chi.’ Fe wnaeth ac fe aethom ni allan drwy’r drws ffrynt, allan at y pafin ac yn ôl i mewn i’r tŷ a chael sgwrs a hwyl. Yr wythnos wedyn, roedd yn aros amdana i wrth y drws ffrynt, felly fe aethom ni am daith fach 10 munud o hyd yn fy nghar i lawr y ffordd ac yn ôl.
Erbyn y drydedd wythnos, roedd yn gwisgo ei siaced ac yn aros amdana i ar y pafin. Erbyn hyn, mae’r gŵr yn teithio ar y bws, yn gwneud popeth ei hun, ac yn mynd i lefydd nad ydi wedi bod ers blynyddoedd, ac yn mynd allan am baned o goffi ar ei ben ei hun. Fe deithiais i gydag o yng nghefn bws am y tro cyntaf i sicrhau ei fod yn teimlo’n ddiogel, fod ganddo rywun i wneud iddo deimlo’n ddiogel.
Dyna’r math o beth rydym ni’n ei wneud o ddydd i ddydd, ond dydym ni ddim yn rhuthro pethau. Rydym ni’n gwneud pethau’n araf i sicrhau fod yr unigolyn yn hapus.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy rôl?
Dwi’n mwynhau gweld y wên ar wynebau pobl pan maen nhw’n mwynhau eu hunain. Maen nhw’n dod allan o le tywyll iawn weithiau ac maen nhw’n mwynhau eu hunain, gyda gwên. Roeddwn i’n gofalu am ŵr y diwrnod o’r blaen a bu’n waith caled ei gael i ddod i fwynhau ei hun. Roedd yn ymwybodol iawn o bobl a doedd o ddim yn hoffi llefydd prysur. Beth bynnag, fe aethom ni i barti, ac roedd y gŵr yma’n dawnsio ar y llawr dawnsio, roedd yn dawnsio yn ei gadair, roedd o’n canu. Fe wnaethom ni siarad gyda’i ferch ac roedd hi’n crio, “mae Dad yn ei ôl, dydw i erioed wedi gweld Dad mor hapus yn ei fywyd” meddai hi. Ddoe oedd hynny.
Beth yw’r peth mwyaf anodd am dy swydd?
Y peth mwyaf anodd yn ein swydd ni yw pan mae’n rhaid i ti ddod â’r gofal i ben gan fod eu dementia neu iechyd wedi dirywio. Rwyt ti wedi gwneud ffrind, ac fe ddylai ffrindiau fod am oes, ond fe ddaw yna amser pan mae’n rhaid i chi ddweud ‘tydi hyn ddim yn gweithio i’r unigolyn yma’, ac mae’n bechod oherwydd mae’n rhaid i ti ddweud ffarwel wrth ffrind. Dyna rhan anodd y swydd. Dyna rhan trist iawn y swydd. Does dim gwella gyda dementia, dim ond gwaethygu, a dwi’n teimlo’n drist iawn pan mae’n rhaid i mi wneud hynny. Trist iawn iawn a dweud y gwir.
Sut wnest ti ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol?
Wel mae hi’n stori ddigrif a dweud y gwir. Adeiladwr oeddwn i yn ôl fy nghrefft, ond roeddwn i’n eithaf sâl ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae fy ngwraig eisoes yn y maes gofal cymdeithasol ac roedd hi’n gweithio gyda PSS. Fe ddywedodd hi ‘tyrd i wneud rhywfaint o hyfforddi, ti’n diflasu’ ac mi wnes i a dydw i heb edrych yn ôl.
Dydw i erioed wedi cael swydd sydd wedi fy ngwneud yn hapus. Rydw i’n codi o’r gwely bob dydd ac nid yw’n broblem. Dwi’n mwynhau fy niwrnodau allan, dwi’n mwynhau cael ‘TRIO’. Mae’n fendith gallu helpu pobl eraill. Dyna un or pethau gorau y gallwch chi ei wneud yn eich bywyd.
Beth sy’n dy gadw ym maes gofal cymdeithasol?
O, y pleser o weld pobl yn mwynhau eu hunain. Gwên ar eu hwyneb, yn cael hwyl. Trafod hyn yr arferai ddigwydd iddynt. Mae pob diwrnod yn wahanol, ceir problemau weithiau, ond ar y cyfan mae’n amser hapus gyda llawer o hwyl a llawer o chwerthin. Ac mae hi’n swydd sy’n rhoi llawer o fwynhad.
Pa sgiliau sydd ei angen arnoch i fod yn llwyddiannus yn eich swydd?
Does dim angen unrhyw sgiliau. Bydda yn ti dy hun, mwynhau’r profiad, dyna’r prif sgil sydd ei angen arnat. Rydym ni angen ein cymwysterau, ond tydi hynny ddim yn ein gwneud yn ofalwr gwell. Y gofalwr gorau yw rhywun sydd yn mwynhau ei swydd ac yn ei chyflawni’n dda. Rydw i’n adeiladwr yn ôl fy nghrefft, felly os ydw i’n gallu gwneud y swydd, gall unrhyw un.
Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n dymuno gweithio ym maes gofal cymdeithasol?
Rho gynnig arni gan ei bod yn swydd mor fuddiol. Pan wyt ti’n eistedd gartref min nos ac yn gallu dweud ‘diwrnod da heddiw’, yna mae gen ti wên ar dy wyneb. Mae’n ddiwrnod da gan fod pobl yno i fwynhau eu hunain. Rwyt ti’n helpu i wneud diwrnod rhywun yn un arbennig iawn.
Wedi ei bostio ar 28 February 2020