Diwrnod ym mywyd Cara ...

cara

Cara

Fy enw i yw Cara Lloyd. Rwyf yn 21 mlwydd oed ac yn gweithio i Premier Care Plus fel Ymarferydd Gofal.

Diwrnod arferol ...

Ar ddiwrnod arferol rydw i’n debygol o fod yn codi am tua hanner awr wedi 5 y bore a chael fy hun yn barod am y dydd. Byddaf fel arfer yn cychwyn am fy ngalwad cyntaf am tua 7 o’r gloch. Bydd y galwad cyntaf yn cynnwys helpu rhywun i godi o’r gwely, ymolchi, gwisgo amdanynt a’u helpu i lawr y grisiau. Wedyn gallwn i fod yn paratoi brecwast neu yn eu cefnogi wrth iddynt wneud eu brecwast eu hunain, a helpu â meddyginiaethau. Byddaf yn gwneud hyn ar gyfer oddeutu 3-4 o gleientiaid cyn symud ymlaen at y galwadau cinio.

 Fel arfer byddwn yn mynd yn ôl at yr un bobl sydd wedi derbyn cymorth gyda brecwast gennym ar gyfer y galwadau cinio i baratoi cinio, neu eu cefnogi a’u helpu â meddyginiaeth eto. Nid pawb sydd yn derbyn meddyginiaeth, ond mae’n wir am y mwyafrif o’r cleientiaid yr ydym yn gofalu amdanynt.

 Ar ôl hynny, mae hi fel arfer yn bryd i mi gymryd toriad cinio. Yn dilyn hyn byddaf fel arfer yn symud ymlaen at y galwadau te – gall hyn fod yn bryd poeth neu’n frechdan yn unig, yn ddibynnol ar yr hyn y maent yn ei hoffi, a meddyginiaeth eto. Mae gan rai pobl badiau anymataliaeth y byddwn yn rhoi cymorth i’w newid os nad ydynt yn gallu gwneud hyn drostynt eu hunain. Byddwn hefyd yn eu helpu ag unrhyw beth sydd ei angen arnynt, hyd yn oed os yw’n ychydig o waith tŷ – rhoi’r peiriant golchi ymlaen neu roi pethau yn y sychwr iddynt, efallai.

 

Yn dilyn bod ar y galwadau te, mae’n bryd symud ymlaen at y galwadau nos. Gall hyn amrywio o helpu cleientiaid i wisgo eu dillad nos, newid eu padiau anymataliaeth a chael paned o de a meddyginiaeth ar eu cyfer; i’w helpu'n llythrennol i fewn i’w gwely, gan nad yw rhai pobol yn gallu eu cael eu hunain i’r gwely pan fyddwn yn gadael. Gall hyn olygu codi rhywun i’r gwely neu yn syml, bod yno i’w helpu wrth iddynt fynd i’r gwely eu hunain.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy rôl?

Mae’n siŵr mai’r hyn yr ydw i’n ei fwynhau fwyaf yw sut yr ydych ch i’n gwneud i rywun deimlo wrth wneud y swydd. Mae meddwl am y ffaith eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun a’ch bod yn eu helpu yn deimlad anhygoel, a dyna, siŵr o fod, yw’r peth gorau y gallwch chi ei gael allan o’ch swydd.

 Tydi popeth ddim yn golygu gwneud rhywbeth ar eu cyfer nhw. Mae’r mwyafrif o bobl yn dyheu am y sgwrs fach yna. Dydyn nhw ddim eisiau i chi fod yn eu tŷ yn gwneud ‘hyn a’r llall’. Maen nhw eisiau eistedd i lawr i chi gael siarad â nhw a chael paned o de â nhw. I lawer o bobl, ni fydd yr unig bobl y byddant yn eu gweld drwy’r dydd, ac fe allem fod yr unig bobl iddynt eu gweld yr wythnos honno. Felly, mae eistedd i lawr am 5 munud i gael paned a sgwrs yn gallu bod yn uchafbwynt eu hwythnos. Mae’r ffaith eu bod yn gallu siarad â chi am beth bynnag y maent awydd sgwrs amdano yn gwneud iddynt deimlo mor hapus. Dim ond 5 munud allan o’ch diwrnod ydi o, ac rydych chi’n gwneud i rywun deimlo mor hapus.

 

Beth sydd yn heriol am dy rôl?

Mae’n siŵr y baswn i’n dweud mai un o’r prif heriau ydi fod rhai pobl yn methu derbyn bod angen yr help arnyn nhw. Weithiau, rwyt ti’n mynd i fewn ac mae’n amlwg nad ydyn nhw eisiau i ti fod yno, ac mae’n rhaid goresgyn rhwystr y ffaith honno a’u cael i dderbyn bod arnyn nhw dy angen di yno. Does yna ddim pwrpas mynd i fewn gan ddisgwyl iddyn nhw wneud beth wyt ti’n ei ddweud ar unwaith – mae’n rhaid adeiladu’r berthynas er mwyn iddyn nhw dderbyn y ffaith dy fod di yno. Mi all hynny gymryd peth amser. Gall fod yn beth heriol iawn i’w wneud.

 Unwaith eich bod yn goresgyn y rhwystr yna, mae’n hawdd gwneud yr hyn sydd angen i chi ei wneud a thynnu ymlaen â nhw. Mae’n rhaid cofio nad cleient i ni ydyn nhw yn unig; maent yn berson o gig a gwaed ac maent yn dymuno cael eu trin felly hefyd.

 

A fedri di feddwl am adeg pan rwyt ti wedi gwneud gwahaniaeth?

O ran hyn, nid cymaint fel unigolyn ond y cwmni cyfan yr ydw i’n gweithio ar ei gyfer, mae adeg y Nadolig pan fydd Premier Care Plus yn coginio prydau i’r cleientiaid sydd heb deuluoedd i wneud hynny drostyn nhw yn adeg arbennig. Bydd y Rheolwyr yn coginio’r prydau gyda chymorth rhoddion gan bobl – y tyrcwn a’r llysiau. Maen nhw’n coginio’r cinio Nadolig mawr yma ar eu cyfer nhw. Maen nhw'n cael cracer, pwdin Nadolig a phopeth. Mae’r Gofalwyr yn helpu i fynd â’r prydau draw ar eu cyfer nhw. Stwffin, twrci, pwdin Efrog – roedd popeth ar y plât. Roedden nhw mor hapus am y peth.

 Fe wnaeth y weithred syml honno eu gwneud nhw mor hapus. Rydan ni’n cymryd y peth yn ganiataol. Byddech chi’n meddwl y byddai pobl yn treulio’r dydd cyfan gyda’u teulu, ond mae’r ffaith nad ydyn nhw’n medru a’u bod yn derbyn eu pryd gan rywun arall yn eu gwneud yn hapus. Mae’n gwneud i chi gymryd cam yn ôl ac ystyried cymaint yr ydan ni’n ei gymryd yn ganiataol wrth weld cyn lleied sydd ganddyn nhw a cymaint sydd gennym ni adref.

 

Beth wyt ti wedi ei ddysgu gan y bobl yr wyt ti wedi eu cefnogi?

O, dwi wedi dysgu cymaint ganddyn nhw. Pan ddechreuais i gyntaf, roeddwn i’n gogydd ofnadwy. Ro’n i’n gallu llosgi ffa os oeddwn i’n trio eu coginio nhw. Byddai un o’r cleientiaid yn gwneud i mi goginio rhywbeth gwahanol bob tro’r o’n i’n mynd yno, ond roedden ni’n gwneud hynny efo’n gilydd. Bydden nhw'n eistedd wrth fy ymyl i ac yn dweud wrtha i beth i’w wneud, pa mor hir i’w adael yn y popty neu am ba mor hir i’w ffrio. Fe wnaeth o fy nysgu i sut i goginio, a bellach dwi’n gallu coginio unrhyw beth. O fod yn gogydd ofnadwy, mi fedraf i bellach fynd i dŷ unrhyw un a choginio unrhyw beth y maen nhw’n gofyn amdano.   

 

Sut wnes ti ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol?

Dwi wastad wedi gwybod fy mod i eisiau bod yn y sector gofal, ond doeddwn i erioed yn gwybod sut swydd yr oeddwn i am ei gael. Fe wnes i astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ar ôl gadael yr ysgol es i i’r coleg a chwblhau cymhwyster Lefel 3. Ar ôl gorffen fy Lefel 3, fe wnes i fynd i weithio mewn tafarndai am nad o’n i’n gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud a hefyd am fod llawer o lefydd yn gofyn i chi fod â phrofiad blaenorol.

 Roedd fy ffrind yn gweithio i’r cwmni yma. Roeddem ni’n siarad un diwrnod ac fe ddwedodd hi, ‘be am i ti drio a gwneud cais - fe wnân nhw roi hyfforddiant a bob dim i ti’. Fe wnes i gyflwyno cais a siarad â Connie. Fe wnaeth hi roi cyfweliad a chyfnod treialu i mi. O’r diwrnod cyntaf, roeddwn i wrth fy modd. Fe wnes i gysgodi am 3 shifft ac ar ôl y shifft gyntaf roeddwn i’n gwybod mai dyma oeddwn i eisiau ei wneud ac mai dyma’r math o swydd yr oeddwn i’n dymuno ei gael ar unwaith.

 Llongyfarchiadau i Elizabeth McCabe-Boutrus, Rheolwr yn Premier Care Plus, a enillodd y wobr am Arweinyddiaeth a Rheolaeth byw â chymorth neu fyw mewn grŵp cymunedol bychan yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2018.

 

Lle fyddi di ymhen 5 mlynedd?

Fis Medi, byddaf yn dychwelyd i’r coleg yn rhan amser i gwblhau cwrs mynediad i brifysgol. Rydw i’n gobeithio hyfforddi i ddod yn Therapydd Galwedigaethol. Mae Jane, fy rheolwr, wedi bod mor gefnogol tuag ata i. Unrhyw beth sydd arna i'w angen - bydd hi’n fy helpu ac yn rhoi cymorth i mi gyrraedd y cam hwnnw. Gyda gobaith, felly, dros y 5 mlynedd nesaf fe fydda i'n dod yn agos iawn at gyrraedd y cam hwnnw.

 

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sydd yn dymuno gweithio ym myd gofal cymdeithasol?

Mi faswn i’n mynd amdani – 100%. Os wyt ti eisiau swydd sy’n mynd i wneud i ti deimlo’n dda, a dy fod eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywyd rhywun arall a gwneud iddyn nhw deimlo cymaint yn well, yna dyma’r swydd berffaith i ti.

Gwna fo! Tydi o ddim yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl.  Mae hi’n rôl galed iawn, ond dwi’n meddwl mai dyma’r swydd gorau gewch chi o ran boddhad personol. Mae’r ffaith eich bod yn helpu rhywun i aros yn eu cartref eu hunain ac i allu bod mor annibynnol â phosib yn gwbl wych.

Felly os ydych chi’n berson gofalgar sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, fe fyddwn i’n dod i’r sector yma – 100%.  Mae o’n anhygoel.  

 

Diolch Cara!

 

Premier Care Plus Ltd
Unit 5 Field Farm
Oakenholt
Flintshire CH6 5SU

01352 758 444
www.premiercareplus.co.uk

Wedi ei bostio ar 21 March 2019