Dathlu Pen-blwydd Ethel 100 oed!

Ethel
Mae Is Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig.

Aeth y Cynghorydd Marion Bateman a'i Chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman i gyfarfod â Mrs Ethel Hemmington ar 30 Mehefin yng Nghartref Gofal Preswyl Marleyfield, Bwcle.

Ganwyd Ethel yng Nglannau Dyfrdwy. Roedd ganddi bedwar brawd ac roeddent yn deulu agos. Gadawodd Ethel yr ysgol ac aeth i weithio i ‘Hanson Dairy', yn Lerpwl. Gweithiodd yno am nifer o flynyddoedd nes iddo gau. Roedd hi'n mwynhau gweithio yno, ac roeddent yn bobl dda.

Yna aeth i weithio yn 'Aerospace' ym Mrychdyn, lle y cyfarfu ei gŵr Harry. Priodasant ym 1943 yn Eglwys y Santes Ethelwold yn Shotton ac ymgartrefu ym Mharc Aston yn Ewloe. Roeddent yn mwynhau mynd ar wyliau ond ni aethant erioed dramor gyda'i gilydd, er i Ethel deithio i Awstralia ar ei phen ei hun unwaith. Roeddent yn mwynhau mynd am ddiod i Dafarn y Boot yn Llaneurgain.
Wedi ei bostio ar 02 July 2018