Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig.
Cynhaliwyd te pnawn ar 17 Mehefin i ddathlu pen-blwydd Mary Griffiths, Mather gynt, yn 100 oed.
Yn enedigol o Ruddlan, a'r hynaf o 6 o blant, daeth i'r Wyddgrug yn 5 oed ac yno y bu'n byw nes iddi symud i'r Fflint gyda'i gŵr Harold a'i mab Jim, bron i 60 mlynedd yn ôl.
Bu Mrs Griffiths yn gweithio yn y ffatri fwledi a chetris yn Rhydymwyn yn ystod y rhyfel, tra bu ei gŵr i ffwrdd am 6 mlynedd yn gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Burma. Bu hefyd yn gwirfoddoli gyda'r Groes Goch ac yn cynorthwyo yn ysbyty Yr Wyddgrug cyn mynd i weithio yn Woolworths ac yna yn Ysgol Uwchradd y Fflint.
Mae gan Mrs Griffiths nifer o gymdogion a chyfeillion da a ymunodd â hi a'i theulu i ddathlu'r achlysur hapus hwn.
Wedi ei bostio ar 19 June 2018