Darparu Cefnogaeth Bersonol i'r Henoed sy'n Byw Mewn Cartrefi Gofal yn Sir y Fflint

Rydym eisiau gwella profiadau o ddydd i ddydd i bobl sy’n byw yng nghartrefi gofal Sir y Fflint gan eu galluogi i wneud mwy o benderfyniadau am y pethau sy'n golygu fwyaf iddyn nhw a datblygu dealltwriaeth ar sut i'w cefnogi orau. Mae Cynnydd ar gyfer Darparwyr yn gosod ein disgwyliadau'n glir ar gyfer darpariaeth cefnogaeth unigol gan ddarparwyr gofal preswyl ac yn cefnogi timau rheolwyr a staff i annog pobl i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau.

Rydym wedi datblygu 5 datganiad allweddol i ddisgrifio beth rydym yn ei wneud a pham.  

  1. Mae deall beth sydd o bwys i bobl a sut beth yw cefnogaeth ragorol yn allweddol mewn cyflawni ansawdd bywyd.
  2. Nid yw’n ddigon gwybod beth sydd o bwys i bobl, mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r wybodaeth hon i wneud gwahaniaeth i'w bywydau bob dydd.
  3. Bydd gwybod beth sydd o bwys i staff yn amlygu cysylltiadau a diddordebau cyffredin a gwneud y diwrnod gwaith yn fwynhad.
  4. Teuluoedd a ffrindiau sy’n adnabod eu hanwyliaid orau, a gallent ein helpu i gael pethau’n gywir.
  5. Bydd Cynnydd ar gyfer Darparwyr yn helpu i wirio ein safle presennol a beth sydd angen ei wneud nesaf
Wedi ei bostio ar 07 February 2018