Cynllun Sir y Fflint yn cael ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

Accolades

Cafodd Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint gymeradwyaeth uchel yn Acolâdau Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar.

Cawsant eu cydnabod am y prosiect sy’n darparu gweithgareddau dydd defnyddiol i dros 250 o bobl ag anableddau dysgu. Mae’r prosiect yn helpu unigolion i ddysgu sgiliau newydd, datblygu annibyniaeth ac i wneud cysylltiadau cymdeithasol a ffrindiau. Mae hefyd yn gweithio gyda’r rhaglen byw â chymorth i helpu’r bobl sy’n derbyn cefnogaeth a’u rhieni a gofalwyr i allu defnyddio gwasanaethau seibiant llwyddiannus, diogel a di-dor. Gwella gofal a chefnogaeth adref gyda’n gilydd.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

"Mae yna reswm arall i ddathlu, gan fod Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru wedi ennill acolâd am eu gwaith yn darparu gwasanaethau seibiant i ofalwyr.

"Mae’n gyflawniad aruthrol i gyrraedd rowndiau terfynol Acolâdau Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hi bob amser yn braf pan mae gwaith caled ac ymroddiad ein swyddogion a phartneriaid yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Da iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect yma sydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bobl. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyfrannu."

Mae Acolâdau Gofal Cymdeithasol Cymru yn cydnabod rhagoriaeth ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eu dewis gan banel o feirniaid sydd yn cynnwys Aelodau’r Bwrdd, cynrychiolwyr o’n sefydliadau partner, cyn enillwyr a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chefnogaeth.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

"Rydym wrth ein bodd bod y nifer mwyaf erioed wedi cystadlu gan arwain at grwp cryf yn y rownd derfynol sy’n dangos y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru."

Gallwch wylio seremoni wobrwyo Acolâdau yma, ac mae prosiectau Sir y Fflint i’w gweld am 34:09:

https://www.youtube.com/watch?v=TM__2YgCD7U&feature=youtu.be&fbclid=IwAR1vOfHIzx1REn6WAiQLIyFl-zdHtaVueTMOPj0Q_2D1NMk1L7w6OcKjb8A

Wedi ei bostio ar 13 November 2020