Diweddariadau gan y Bwrdd Iechyd
Gwyddom ei bod yn anodd i bobl sydd â theulu neu ffrindiau yn yr ysbyty ac ni allant ymweld â nhw oherwydd COVID-19.
Dyma pam ein bod wedi sefydlu gwasanaeth Llythyr i’n Hanwyliaid, a gall bobl gael mynediad at y gwasanaeth drwy ein gwefan yma.
Fe all pobl ysgrifennu neges e-bost ac mi fydd y neges yn cael ei ddosbarthu i anwyliaid tra maent yn ein gofal.
Yn anffodus, ni allwn anfon ymateb yn ôl ac er mwyn diogelu cyfrinachedd cleifion, ni all y gwasanaeth hwn ddarparu diweddariad yn ymwneud â thriniaeth neu unrhyw wybodaeth arall am unigolyn sy’n ein gofal.
Fe all pobl hefyd anfon neges drwy ein gwasanaeth Llythyr i’r Hanhwyliaid dros y ffôn ar 03000 851234. Mae’r gwasanaeth e-bost a’r llinellau ffôn yn cael eu rheoli rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener (gan eithrio Gwyliau Banc).
Gwyddom faint y gall cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid olygu i bawb, felly a fyddech cystal â rhannu’r manylion hyn am y gwasanaeth drwy eich rhwydweithiau.
Wedi ei bostio ar 10 June 2020