Bluebird Care Sir y Fflint yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi!

St David's Day Daffodils

Mae Bluebird Care bob tro yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ar gyfer eu defnyddwyr gwasanaeth drwy ystod o fentrau.  

Darparodd y tîm o ofalwyr ofal o ansawdd uchel ar 1 Mawrth, ond hefyd roeddent yn gwneud i’r defnyddwyr gwasanaeth wenu ar Ddydd Gŵyl Dewi.  Derbyniodd pob defnyddiwr gwasanaeth dusw o Gennin Pedr Cymreig i ddathlu.   

 Mae’r tîm eisoes wedi derbyn galwadau ffôn yn diolch i'w gofalwyr am y blodau, yn dweud ei fod yn annisgwyl ac yn gyfraniad caredig gan dîm Bluebird Care.   

 ‘Dim ond gofalwyr sy’n gwmni i rai o’n defnyddwyr gwasanaeth o ddydd i ddydd, felly mae’n hyfryd dod ag ychydig o heulwen i’w cartrefi eu hunain drwy gyflwyno tusw hardd o Gennin Pedr Cymreig iddynt!' meddai Rebecca Zartarian, Rheolwr Busnes Bluebird Care, Sir y Fflint.

Wedi ei bostio ar 01 March 2019