AP COVID-19

NHS Covid-19

Helpu ni i gyd i gefnogi’r GIG trwy leihau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19).

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi lansio ap GIG COVID-19 ledled Cymru a Lloegr. Mae ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o'n rhaglen Profi Olrhain Diogelu i reoli lledaeniad COVID-19.

Po fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r ap, po fwyaf ein siawns o leihau lledaeniad y feirws.

Bydd yr ap yn:

• rhoi gwybod ichi os ydych chi wedi bod yn agos at rywun sydd bellach â symptomau coronafeirws
• rhoi cyngor ichi am coronafeirws sy’n berthnasol ichi
• caniatáu i chi wirio eich symptomau
• mynd â chi i wefan lle gallwch archebu prawf os oes gennych symptomau
• darparu amserydd cyfrif hunan-ynysu os oes angen


Beth fydd yr ap yn ei gynnig i unigolion?
Yr ap yw’r ffordd gyflymaf i ddefnyddwyr weld a ydynt mewn perygl o gael y coronafeirws. Bydd yn galluogi defnyddwyr (gyda ffôn clyfar cydnaws) i wirio symptomau, archebu profion a chael canlyniadau a chyngor. Bydd hefyd yn darparu rhybuddion i hunanynysu os yw defnyddiwr wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos sydd wedi’i gadarnhau, a bydd ganddo system ‘rhybuddio’ a fydd yn dangos y lefel risg bresennol i ddefnyddwyr yn ei ardal. Mae’r ap ar gael i bobl ei lawrlwytho rwan.

App Store apps.apple.com/gb/app/nhs-covid-19/id1520427663
Google Play play.google.com/store/apps/details?id=uk.nhs.covid19.production

Beth fydd yr ap yn ei gynnig i fusnesau?
Mae nodwedd ‘mewngofnodi’ ar yr ap a fydd yn galluogi busnesau i gofrestru am god QR swyddogol. Mae hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr ap fewngofnodi drwy sganio’r cod. Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i fusnesau a defnyddwyr fod yn gwbl ddienw wrth olrhain achosion o’r coronafeirws. Mae’n gyflym, yn syml ac yn ddiogel, a bydd yn helpu swyddogion olrhain cysylltiadau i gysylltu â defnyddwyr yn gyflym os oes angen. Nid yw hyn yn disodli’r gofyniad cyfreithiol i fusnesau risg uchel penodol yng Nghymru gasglu gwybodaeth gan gwsmeriaid, staff ac ymwelwyr. Bydd dal angen i ddefnyddwyr ap a’r rheini nad ydynt yn defnyddio’r ap roi eu manylion cyswllt.
Mae mwy o wybodaeth am y cod QR ar gael yma…

https://www.gov.uk/creu-coronafeirws-qr-poster / https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig-canllawiau-i-fusnesau-sefydliadau

I gael mwy o wybodaeth am Ap COVID-19 ewch i:
https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig

Wedi ei bostio ar 28 September 2020