Diwrnod ym Mywyd

Cara...

 

Cyflwyna dy hun i ni.

Cara Lloyd ydw i a dwi’n gweithio i Premier Care Plus fel Ymarferydd Gofal a dwi’n 20 oed.

 

Disgrifia ddiwrnod arferol i ni yn dy rôl

Ar ddiwrnod arferol, buaswn i’n codi tua 5:30 a pharatoi ar gyfer y diwrnod. Buaswn i’n mynd at fy nghleient cyntaf tua 7am a’u helpu gyda’u gofal personol, brecwast, dyletswyddau cyffredinol o amgylch y tŷ, gwneud eu gwely, a rhoi meddyginiaeth iddynt os oes angen. Buaswn i’n mynd i tua 3 neu 4 o alwadau yn ystod y bore.

 

Mae gan bobl wahanol anghenion, nid oes angen gofal personol ar bob un, nid oes angen meddyginiaeth ar bob un ond mae llawer o bobl angen hynny. Ar ôl galwadau’r bore, mae angen mynd i’r galwadau amser cinio, a fyddai’n cynnwys helpu i baratoi cinio, coginio neu baratoi brechdan, rhoi meddyginiaeth a rhoi gofal personol.

 

Ar ôl y galwadau amser cinio, ychydig o oriau wedyn, buaswn i’n dechrau ar alwadau amser te, fel arfer tua 3 neu 4. Buaswn i’n eu helpu i goginio rhywbeth blasus a phoeth i’w fwyta, rhoi meddyginiaeth os oes angen a gofalu am hylendid personol. Mae rhai pobl yn falch o gael sgwrs gyda chi.

 

Mae llawer o sifftiau mewn gofal cartref yn hyblyg ac mae staff yn dewis gweithio o amgylch ymrwymiadau eraill.

 

Ar ôl galwadau amser te, buaswn i’n mynd at y galwadau amser gwely. Mae rhai pobl nad ydynt am fynd i’r gwely eto, felly buaswn i’n eu helpu i newid i’w dillad nos, ymolchi a’u helpu i frwsio eu dannedd. Ar gyfer rhai sydd angen help, gallwch ddefnyddio cymhorthion sefyll neu declynnau codi i’w rhoi yn y gwely a’u helpu i'w gwneud mor gyfforddus ag sy’n bosibl i sicrhau bod popeth ganddynt yn barod i gael noson dda o gwsg.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy rôl?

Mae’n siŵr mai pa mor werth chweil yw’r rôl. Mae gwybod eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun, eu helpu i fyw yn eu cartref eu hunain lle mae ganddynt atgofion ac mewn amgylchedd cyfarwydd. Mae’n golygu gymaint i bobl ac mae’n rhoi teimlad da i chi. Cyfarfod pobl newydd hefyd, Mae ganddynt straeon da i’w dweud ac maent wedi byw bywydau mor anturus, ac mae gallu clywed am hyn yn un o fy hoff rannau o’r gwaith.

 

Y cyfan mae pobl ei eisiau yw sgwrs pum munud cyn mynd i gysgu. Mae’n gwneud i chi fod eisiau aros yno am oriau a sgwrsio.

 

Fedri di feddwl am amser lle rwyt ti’n teimlo dy fod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?

Pan wnaethom ni ddechrau gyda dynes rai misoedd yn ôl, doedd hi ddim yn teimlo ei bod angen i ni fod yno, byddai’n cau’r drws a throi ei chefn a gwrthod cydnabod ein bod ni yno. Roedd hi’n teimlo nad oedd ein hangen arni ac na allai gael dim allan o’r ffaith ein bod ni yno.

 

Eisteddais yn ôl am 10 munud a gadael iddi siarad amdani hi ei hun ac o le roedd hi’n dod. Roeddwn i’n gofyn cwestiynau am beth oedd hi’n arfer ei wneud ac am ba hyd roedd hi wedi byw yno, dysgu am ei bywyd. Agorodd i fyny i mi fwy, ac roedd hi’n dweud popeth wrthai a doedd hi ddim eisiau stopio.

 

Sut wnes ti ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol?

Pan oeddwn i’n gweithio mewn tafarn, dechreuais wneud fy nghwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y coleg. Es ar brofiad gwaith i ysgolion a chartrefi preswyl, a doeddwn i methu darganfod lle roeddwn i am fod. Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio ym maes gofal, ond doeddwn i ddim yn gallu penderfynu beth oeddwn i am ei wneud. Roedd un o fy ffrindiau’n gweithio yn y cwmni eisoes felly gofynnais ragor o gwestiynau iddi. Roedd gen i ddiddordeb yn y gwaith ac roeddwn eisiau gwybod mwy. Es am gyfweliad, gwnaethant egluro popeth wrthyf a dechreuais fy nghyfnod prawf. Ar ddiwrnod cyntaf fy nghyfnod prawf, syrthiais mewn cariad gyda’r gwaith.

 

Doedd o ddim fel byddech chi’n disgwyl iddo fod. Nid yw’n waith hawdd, ond mae’r teimlad rydych yn ei gael yn anhygoel. Fyddwn i ddim am wneud unrhyw waith arall rŵan.

 

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ymuno â’r sector gofal cymdeithasol?

Os ydych chi’n meddwl am ymuno â’r sector gofal cymdeithasol, byddai’n berffaith os ydych yn ofalgar, trugarog ac am wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun. Mae’r teimlad rydych chi’n ei gael yn anhygoel a dwi ddim yn meddwl byddech chi’n ei gael mewn unrhyw waith arall byddech chi’n ei wneud.

 

 

Diolch Cara!